Cytuno tir comin ar gyfer trac rasio

Disgrifiad o'r llun, Mi fyddai gwesty a chanolfan hamdden hefyd yn cael ei adeiladu ar y safle

Mae hyd at 491 acer o dir wedi ei gymeradwyo er mwyn cael ei ddefnyddio i adeiladu trac rasio ym Mlaenau Gwent.

Y Cyngor sydd bia'r tir comin. Mi fyddai yn rhaid i Cwmni Datblygu Pennau'r Cymoedd rhoi tir arall yn 么l.

Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi cytuno mewn egwyddor i ddarparu'r tir.

Bydd arolygydd cynllunio yn penderfynu os bydd y trac yn cael ei adeiladu mewn ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Mehefin.

Mi fyddai'r trac rasio yn cael ei adeiladu ar 830 acer o dir. Mae'r datblygwyr yn dweud y byddai yn creu miloedd o swyddi ac yn dod a 750,000 o ymwelwyr y flwyddyn i'r ardal.

Ond mae rhan o'r ardal yn dir comin ac mi fydd yn rhaid rhoi tir arall yn ei le os bydd y cynllun yn mynd yn ei flaen.

Cytuno mewn egwyddor

Mi fyddai'r cyngor yn fodlon i chwe darn o'i thir ei hunain gael ei ddefnyddio sydd yn cynnwys tir yn Ffarm Bryn, Brynmawr, Ffarm Green Meadow yng Nghwmtyleri, Coedwig Woodlands yn Nhredegar, Coedwig Garden City, tir wrth ymyl parc busnes Crown yn Nhredegar, a thir o amgylch yst芒d ddiwydiannol Pwll-Y-Waun a Phwll Caerdydd yng Nglyn Ebwy.

Roedd adroddiad i bwyllgor gwaith y cyngor yn dweud y byddai'r cyngor yn parhau i fod perchen y tir. Ond mi fydden nhw angen caniat芒d pe bydden nhw eisiau defnyddio'r tir ar gyfer defnydd arall yn y dyfodol.

Er bod y pwyllgor gwaith wedi cymeradwyo'r syniad mewn egwyddor mae'n rhaid i'r penderfyniad mynd o flaen cyfarfod o'r cyngor llawn er mwyn rhoi s锚l bendith.

Cafodd y trac rasio caniat芒d cynllunio ym mis Gorffennaf 2013. Ond mi gafodd y penderfyniad ei gyfeirio at yr arolygydd cynllunio. Mae hyd at 491 acer o dir wedi ei gymeradwyo er mwyn cael ei ddefnyddio i adeiladu trac rasio ym Mlaenau Gwent.

Mae rhai yn gwrthwynebu'r datblygiad ac mae pennaethiaid Silverstone wedi gofyn David Cameron i beidio rhoi hyd at 拢30 miliwn o nawdd cyhoeddus i'r cynlluniau, fel mae Llywodraeth Cymru yn meddwl gwneud.

Mi fyddai Cylchffordd Cymru yn cynnal prif ddigwyddiadau rasio heblaw am Fformwla 1.