Dyfodol i'r Iaith: 'Angen cynllun iaith ymhob sir'

Disgrifiad o'r llun, Roedd gr诺p wedi casglu bod angen canolbwyntio ymdrechion ar wyth maes penodol er mwyn atal y dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg.

Mae'r cynllun iaith gafodd ei dderbyn gan gyngor llawn Sir G芒r yn un ddylai gael ei efelychu gan siroedd eraill Cymru, meddai mudiad Dyfodol i'r Iaith.

Yr wythnos hon, penderfynodd y sir dderbyn argymhellion adroddiad ar yr iaith Gymraeg.

Casglodd gr诺p, gafodd ei benodi er mwyn edrych ar y sefyllfa, fod angen canolbwyntio ymdrechion ar wyth maes penodol er mwyn atal y dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg.

Dangosodd Cyfrifiad 2011 bod llai na hanner poblogaeth y sir yn siarad yr iaith, am y tro cyntaf.

Dywedodd Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol i'r Iaith: "Mae'n gam hanesyddol bod sir yng Nghymru'n derbyn cynllun iaith sy'n cwmpasu tai, yr economi, addysg a'r iaith mewn gwaith ac yn y gymdeithas.

'Gweddnewid'

"Mae gan y cynllun iaith a gafodd ei dderbyn y gallu i weddnewid sefyllfa'r Gymraeg yn y sir. Mae'n mynd i'r afael 芒'r rhan fwyaf o'r agweddau sydd o fewn gallu Cyngor Sir.

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at weld yr iaith yn cael ei defnyddio fwyfwy gan weithwyr yn y sir ac at weld y sir yn cynnig gweithgareddau Cymraeg i bobl ifanc."

Roedd Dyfodol i'r Iaith wedi cyflwyno sylwadau i'r gweithgor oedd yn paratoi'r cynllun iaith.

"Mae'n dda gweld bod y cynllun iaith wedi ymateb mor gadarnhaol.

"Ac mae angen i Lywodraeth Cymru'n awr dderbyn y cynllun iaith hwn fel patrwm gweithredu ar gyfer siroedd eraill Cymru.

"Yn y pen draw, defnyddio'r Gymraeg yn y cartref, yn y gymdeithas ac yn y gwaith fydd yn ei diogelu, yn anad dim arall."