麻豆官网首页入口

Llwybr yr arfordir: gwasanaeth newydd i gerddwyr

  • Cyhoeddwyd
Llwybr arfordirFfynhonnell y llun, Taith Ymylon Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

320 milltir yw'r llwybr ar hyd gogledd Cymru

Mae cwmniau gwyliau wedi cytuno i gydweithio gyda'i gilydd er mwyn cynnig llety a gwasanaeth newydd cludo bagiau i gerddwyr yng ngogledd Cymru.

Bydd Taith Ymylon Cymru, Crwydro M么n a Clwydian Walking Holidays yn gyfrifol am rannau gwahanol o lwybr yr arfordir yn y gogledd sydd yn 320 milltir.

Cynnig gwasanaeth o Gaer i Fae Colwyn fydd Clwydian Walking Holidays, Sir F么n a Bae Colwyn i Gaernarfon fydd y cwmni Crwydro M么n ac ardaloedd Pen llyn a Chaernarfon i Borthmadog fydd Taith Ymylon Cymru.

870 o filltiroedd yw llwybr arfordir Cymru. Dechreuodd y gwaith i greu'r llwybr yn 2007 a chafodd ei agor ym mis Mai 2012.

Dyma'r llwybr arfordir cyntaf yn y byd sydd yn mynd o gwmpas y wlad i gyd.

Dangosodd astudiaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru bod y llwybr yn dod a budd economaidd i Gymru gyda bron i dair miliwn o ymwelwyr wedi dod yma dros gyfnod o 12 mis. Roedd yr astudiaeth yn awgrymu bod hyn wedi dod a 拢32m i economi'r wlad.

Cydweithio yn y de?

Menter Cerdded Gogledd Cymru, sydd yn cael ei ariannu gan Bartneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru sydd wedi trefnu'r datblygiad diweddar. Bydd y cwmniau gwyliau yn trefnu llety dros n么s i gerddwyr ac yn gwneud yn siwr bod eu bagiau yn cyrraedd y llety hwnnw erbyn diwedd y diwrnod.

Dywedodd Peter Hewlett o Taith Ymylon Cymru: "Does dim byd yn fwy rhwystredig na cherdded ar hyd y llwybr trwy'r dydd ac wedyn sylweddoli bod yn rhaid i chi gerdded dwy filltir arall er mwyn cyrraedd y gwesty. Yna yn y bore mae'n rhaid i chi gerdded dwy filltir arall i fynd n么l at y llwybr.

"Mae cynnig cludo bagiau yn golygu na fydd pobl yn gorfod ymlwybro ymlaen gyda'u bagiau trwm. Mae peidio cael bag trwm ar eich cefn yn golygu bod cerdded yn llawer mwy o hwyl ac mae mwy o siawns y byddwch yn medru cerdded ymhellach y diwrnod hwnnw."

Y gobaith yn y pendraw ydy y bydd cwmniau gwyliau yn y de hefyd yn cydweithio gyda'i gilydd fel bod modd cynnig yr un gwasanaeth ar hyd y llwybr cyfan.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol