麻豆官网首页入口

拢20m i godi safonau ysgolion drwy rannu arferion da

  • Cyhoeddwyd
Athro a disgyblion
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae disgwyl i ysgolion rannau arferion da gyda'i gilydd i godi safonau

Mae enwau 40 o ysgolion a fydd yn gymwys i rannu 拢20 miliwn fel rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru i godi safonau wedi eu cyhoeddi ddydd Iau.

Nod Her Ysgolion Cymru yw codi safonau dysgu drwy annog rhannu arferion da gydag ysgolion eraill.

Mae cynlluniau tebyg eisoes yn bod ers bron i ddeg mlynedd yn ninasoedd Llundain a Manceinion.

Fe fydd ymgynghorwyr yn llunio awgrymiadau ar gyfer ysgolion a hefyd galw am gymorth arbenigwyr.

Perfformiad gwael Pisa

Fe allai hyn olygu fod ysgolion llwyddiannus yn rhannu athrawon gydag ysgolion llai llwyddiannus.

Yn ddiweddar roedd beirniadaeth o Lywodraeth Cymru oherwydd perfformiad gwael ysgolion Cymru yn asesiad rhyngwladol Pisa.

Ym maes mathemateg yn 2013, daeth Cymru'n 43fed allan o 68 o wledydd, o'i gymharu 芒 40fed yn 2010.

Ym maes darllen roedd Cymru yn safle 41, o'i gymharu 芒 38fed yn 2010.

Ac ym maes gwyddoniaeth, roedd Cymru wedi disgyn o'r 30ain safle i'r 36ed.

Fe fydd Gweinidog Addysg Cymru yn cyhoeddi enwau'r ysgolion fydd yn rhan o Her Ysgolion Cymru ddydd Iau.

Cefnogaeth

Cafodd yr ysgolion sy'n rhan o'r cynllun eu dewis gan ystyried nifer o ffactorau yn cynnwys:

鈥u safle yn y system bandio dros y tair blynedd diwethaf;

鈥ifer y disgyblion sy'n derbyn cinio am ddim;

鈥erfformiad disgyblion sy'n derbyn cinio am ddim.

Wrth gyhoeddi rhestr yr ysgolion fydd yn derbyn cefnogaeth, dywedodd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis bod hwn yn ddiwrnod pwysig i Gymru.

"Mae'r ysgolion yma wedi cael eu dewis gan ein bod ni'n credu bod ganddyn nhw'r potensial i wneud gwelliannau sydyn fydd yn para, ac o fudd i ddysgwyr yn y tymor byr ac i'r dyfodol.

"Mae'r hyn yr ydyn ni'n ei wneud yng Nghymru yn arbennig.

"Rydyn ni wedi dysgu o rannau mwyaf llwyddiannus Llundain a Manceinion ac wedi creu rhywbeth sydd wedi ei deilwra yn arbennig i bobl ifanc Cymru."

Digon o arian?

Yn siarad ar Raglen Dylan Jones ar Radio Cymru, dywedodd yr ymgynghorydd addysg, John Morris nad oedd yr arian bob amser yn mynd yn bell iawn.

"Be' sy'n digwydd ydi eu bod nhw'n rhoi pres i mewn, neu yn talu pobl fel fi i fynd i mewn i greu rhyw fath o fframwaith er mwyn i'r athrawon symud ymlaen," meddai.

"Ond y pwynt ydi, mae'n swnio fel lot o bres ond mae 拢500,000 i bob ysgol ddim yn mynd yn bell iawn."

Dywedodd ei fod yn cyd-weld a'r farn na fyddai angen cynllun os byddai holl staff ac awdurdodau ysgolion yn gwneud eu gwaith i'r safon uchaf bob tro, ond dywedodd: "Weithiau maen nhw'n penodi'r bobl anghywir i'r swyddi uchaf yn yr ysgolion - ac mae'r ysgolion yna yn mynd o ddrwg i waeth."

Ychwanegodd: "Beth am y rhai sydd ddim yn y 40 ond yn wir maen nhw angen gymaint o gymorth i wella safon ac arweiniad yr ysgol?

"Mae hynny'n drist yn dydi?"