麻豆官网首页入口

Amseroedd aros canser: System newydd

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd ffordd newydd o fesur gofal cleifion canser yn cael ei dreialu yng Nghymru.

Mi fydd un 'llwybr' ar gyfer triniaeth yn cael ei ddefnyddio o dan y drefn newydd fydd yn rhedeg ochr yn ochr 芒'r system bresennol, sef y llwybr 'brys' 62 diwrnod a'r un 31 diwrnod ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys.

Peilot fydd y cynllun sydd yn ymateb i bryderon nad ydy'r targedau iechyd presennol yn adlewyrchu profiadau na chanlyniadau cleifion mewn ffordd berthnasol, yn 么l y llywodraeth.

Bydd y ddwy system yn cael eu gweithredu am gyfnod prawf.

Maen nhw'n dweud y bydd y ffordd newydd o fesur yn galluogi'r gwasanaeth iechyd i gael gwell darlun o'r gwir amseroedd mae cleifion yn aros am driniaeth, a'r gobaith yw y bydd yn arwain at ostwng yr amseroedd hynny.

Mae'r Ceidwadwyr wedi cyhuddo'r llywodraeth o sgrapio targedau dydyn nhw ddim yn gallu eu cyrraedd.

'Ddim digon manwl'

Dr Tom Crosby yw cyfarwyddwr clinigol Rhwydwaith Canser De Cymru ac roedd yn rhan o'r t卯m clinigol fu'n rhan o'r gwaith o ddatblygu'r targedau newydd.

Dywedodd: "Y safbwynt clinigol yw bod monitro amseroedd aros yn bwysig er mwyn sicrhau fod cleifion yn cael eu trin mewn modd amserol, ond dydyn nhw ddim yn ffordd ddigon manwl o fesur gan eu bod nhw ddim yn mesur profiad clinigol mwyafrif llethol y cleifion.

"Mae'r targedau canser presennol yn cymryd yn ganiataol y dylai pob llwybr diagnosis a thriniaeth fod yr un hyd, ond dyw hynny ddim yn wir bob tro.

"Er enghraifft, pan mae claf yn cael ei gyfeirio gyda lwmp amheus ar y frest, lle mae'r diagnosis yn symlach ac mae llai o brofion angen eu gwneud, fe ddylai llawdriniaeth ddigwydd yn llawer cynt nag ar gyfer claf gyda chanser sydd llai ymosodol ond yn fwy cymhleth lle mae mwy o brofion diagnostig eu hangen fydd yn arwain at lawdriniaeth fwy effeithiol."

Casglu data

Mae'r llywodraeth hefyd yn dweud y bydd y system newydd yn delio 芒'r broblem fod cleifion sy'n agos at orfod aros yn hirach na'r targedau'n derbyn blaenoriaeth pan nad yw hynny wastad yn addas.

Nawr, bydd y byrddau iechyd yn casglu tystiolaeth ar fathau gwahanol o ganser, gyda bob un canolbwyntio ar fath gwahanol o'r clefyd yn ystod y cyfnod peilota.

Os yw'r system yn cael ei ystyried i fod yn llwyddiant, bydd yn cael ei ehangu, a bydd pob bwrdd iechyd yn casglu'r data ar gyfer pob math o ganser.

Yn 么l y llywodraeth mi fydd y targedau ar gyfer 31 a 62 diwrnod yn parhau i gael eu casglu yn y dyfodol agos.

'Methu targedau'

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar: "Mae hwn yn enghraifft arall o Lywodraeth Cymru yn sgrapio targedau maen nhw'n methu 芒'u cyrraedd.

"Mae Carwyn Jones wedi gwneud un addewid ar 么l y llall y bydd amseroedd aros ar gyfer achosion brys o ganser yn cael eu cyrraedd ond nawr rydym yn gweld y llywodraeth yn rhoi'r ffidil yn y to ac yn eu sgrapio er mwyn osgoi sgrwtini ac embaras yn y dyfodol.

"Yn lle sgrapio targedau sydd heb gael eu cyrraedd ers 2008, mi ddylai Llafur Cymru fod yn gosod cynllun ar gyfer mynd i'r afael 芒 thangyflawni a rhoi stop i'r toriadau digynsail maen nhw'n ei orfodi ar ein gwasanaeth iechyd."