Profiad un dyn gafodd ei ysbrydoli gan Stephen Sutton

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Irfon Williams gemotherapi ar ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd
Disgrifiad o'r llun, Irfon gyda'i wraig Becky a'i blant Lois, Owen, Beca, Sion a Ianto, wythnos ar 么l cael y diagnosis ac wythnos cyn cychwyn triniaeth
Disgrifiad o'r llun, Cododd Irfon 拢8,000 mewn noson elusennol gyda Robin McBryde
Disgrifiad o'r llun, Cododd Stephen Sutton dros 拢3.7m i elusen The Teenage Cancer Trust, ac mae'r ffigwr yn parhau i godi

Yr wythnos yma bu farw Stephen Sutton o Swydd Stafford yn 19 mlwydd oed yn dilyn brwydr hir yn erbyn canser y coluddyn.

Cyn ei farwolaeth roedd wedi ysgrifennu rhestr o gampau roedd am eu cyflawni, gan gynnwys codi 拢10,000 i elusen The Teenage Cancer Trust.

Dair wythnos yn 么l, o'i wely yn yr ysbyty, gadawodd beth a gredai oedd ei neges olaf ar wefan Facebook.

Denodd y neges honno sylw cannoedd o filoedd o ddilynwyr ar wefannau cymdeithasol ar draws y byd.

O ganlyniad i hyn mae dros 拢3.7m wedi ei godi tuag at yr elusen wrth i agwedd cadarnhaol Mr Sutton at fywyd greu argraff.

Un arall sydd yn derbyn triniaeth am ganser y coluddyn ydy Irfon Williams o Benrhosgarnedd, Gwynedd.

Bu'n siarad am ei brofiad ar Raglen Dylan Jones ar Radio Cymru.

'Lot o barch'

Mae Mr Williams yn 43 oed ac yn gweithio fel Rheolwr Gwasanaethau Plant gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Dywedodd bod ganddo lawer o barch tuag at stori ac agwedd Stephen Sutton.

"Mae gen i lot o barch i unrhyw un sy'n dioddef o ganser oherwydd y profiad dwi 'di bod trwyddo fy hun.

"Ond i berson ifanc fel Stephen Sutton i neud beth 'nath o a dod ar draws fel person mor bositif efo ei agwedd, ac wedi codi cymaint o arian i elusen, byddai gan unrhyw un barch at berson felly."

Doedd Mr Williams heb ddioddef llawer o symptomau cyn cael y diagnosis o ganser.

"Roedd yn andros o sioc," meddai. "Dydy o ddim yn rhywbeth mae pobl sy'n meddwl bydd yn digwydd iddyn nhw ond dwi wedi derbyn o erbyn hyn ac yn barod am y frwydr."

Ysbrydoliaeth

Collodd Mr Williams ei frawd i epilepsi 10 mlynedd yn 么l a threfnodd ddigwyddiad elusennol i ddathlu ei fywyd.

"Mi wnes i drefnu noson elusennol yng nghlwb rygbi Bangor a ddaru ni godi dros 拢8,000, ac mae hyn wedi fy ysbrydoli i godi arian at elusennau canser," meddai.

Mae wedi cynnal ocsiwn i godi arian i'r elusen Awyr Las, sy'n gweithio tuag at sicrhau gofal iechyd gwell yng ngogledd Cymru.

Mae hefyd ganddo nifer o syniadau at y dyfodol gan gynnwys eillio ei ben a gwisgo gwahanol wigiau er mwyn cefnogi merched sydd wedi colli eu gwallt wedi cael triniaeth am ganser y fron.

'Pwysig gallu siarad'

Ar y diwrnod bu farw Stephen Sutton cafodd Mr Williams newyddion bositif am ei salwch ei hun.

"Yn dilyn sgan mae'n ymddangos bod y tiwmors i gyd wedi mynd yn llai sydd yn arwydd da iawn wrth gwrs," meddai.

"Roedd hi'n newyddion calonogol iawn ac roedd hi'n ddiwrnod da ond trist, oherwydd marwolaeth Stephen.

"Ond dwi'n berson sy'n credu bod rhywbeth da yn dod allan o bob peth drwg ac mae andros o ddaioni wedi dod allan o beth wnaeth Stephen.

"Roedd ei ddefnydd o rwydweithiau cymdeithasol yn amlwg yn ffordd dda iawn i godi ymwybyddiaeth sydd 'run mor bwysig 芒 chodi arian.

"Mae'n bwysig ein bod yn gallu siarad am y pwnc."

Bydd Mr Williams, sydd yn dad i bump o blant, yn gorfod cael rhagor o gemotherapi a llawdriniaeth yn y misoedd sydd i ddod.

Wythnos cyn i'w driniaeth ddechrau priododd Mr Williams ond nid yw wedi cael cyfle i ddathlu'n iawn eto.

"Dydyn ni heb gael parti eto ond byddwn ni'n cael y parti mwya' welwch chi erioed wedi'r holl driniaeth!"