Trac rasio: Benthyciad gan y llywodraeth?

Disgrifiad o'r llun, Mae'r cwmni sy'n datblygu'r gylchffordd eisoes wedi derbyn 拢2m i greu cynllun

Gallai datblygwyr sydd am adeiladu trac rasio Cylchffordd Cymru yng Nglyn Ebwy gael benthyciad tuag at gost y cynllun gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn trafod opsiynau benthyciad masnachol ar gyfer y cwmni y tu 么l i'r cynllun.

Gallai'r prosiect gwerth 拢280m wedyn symud ymlaen i sefyllfa lle byddai'n denu "cyllid masnachol sylweddol," meddai llefarydd ar ran y llywodraeth.

Mae cefnogwyr y cynllun yn dweud y bydd yn creu 6,000 o swyddi a denu 750,000 o ymwelwyr y flwyddyn.

Mae'r cwmni eisoes wedi derbyn grant o 拢2m gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu'r cynllun.

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn cefnogi'r cynllun ac yn dweud eu bod wedi bodloni gyda'r cynllun busnes.

Byddai'r datblygiad, a gynigiwyd gan Gwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd, yn cael ei adeiladu ar 335 hectar (830 erw) o dir nesaf at Stad Ddiwydiannol Rassau.