麻豆官网首页入口

Diffyg gweithredu dros yr iaith medd Alun Ffred Jones

  • Cyhoeddwyd
Alun Ffred Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dydy Alun Ffred Jones ddim yn teimlo bod y llywodraeth wedi gweithredu'r ddeddf iaith yn ddigonol

Mae cyn weinidog llywodraeth Cymru wedi beirniadu'r llywodraeth gan eu cyhuddo o ddiffyg gweithredu dros yr iaith Gymraeg.

Dywedodd Alun Ffred Jones, Aelod Cynulliad Plaid Cymru, nad oedd y Prif Weinidog a'r llywodraeth wedi gweithredu'r ddeddf iaith.

Roedd Alun Ffred Jones yn gyfrifol am yr iaith yn ystod ei gyfnod fel y Gweinidog dros Dreftadaeth.

Mae o yn dweud bod y llywodraeth wedi bod yn "esgeulus".

Wrth ymateb, mae Carwyn Jones wedi dweud bod y ffaith ei fod ef wedi cymryd cyfrifoldeb am y Gymraeg yn dangos pwysigrwydd yr iaith iddo, a bod ei lywodraeth wedi cymryd nifer o gamau i ddiogelu'r iaith.

'Llusgo traed'

Yn siarad ar y Post Cyntaf, dywedodd Alun Ffred Jones nad yw'r "llywodraeth bresennol wedi gweithredu'r ddeddf, dwi bron a deud, o gwbl".

"Maen nhw wedi penodi Comisiynydd ond dydyn nhw ddim wedi dod a'r Safonau i mewn a dwi'n siomedig iawn bod yna lusgo traed wedi bod, a dwi'n credu eu bod nhw wedi bod yn esgeulus.

"Dwi'n gwybod fod Carwyn Jones yn dweud fod isho pwyso a mesur a pheidio 芒 rhuthro i feddwl fod yna ryw atebion hawdd.

"Nagoes, does yna ddim atebion hawdd, ond nid yn unig ym maes y ddeddf maen nhw wedi bod yn araf ond hefyd o ran cyflwyno strategaeth.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Carwyn Jones yn dweud y byddai rhuthro i ymateb yngl欧n 芒'r iaith yn beth ff么l

'Llywodraeth sydd 芒'r grym'

"Dydyn ni byth bron yn clywed Carwyn Jones yn deud 'dan ni'n mynd i neud hyn, dan ni'n mynd i wthio hyn, dan ni'n mynd i wario hyn neu dan ni'n mynd i drio cyflawni hyn'."

Ychwanegodd ei fod am weld y llywodraeth yn "gweithredu'r ddeddf bresennol" ac yn gweithredu safonau "mewn ffordd ystyrlon".

"Mi ges i fy meirniadu am ddiddymu Bwrdd yr Iaith oherwydd bod y Bwrdd yn weithgar iawn yn y maes hybu a hyrwyddo, ond fy nadl i oedd mai'r llywodraeth yn y pen draw sydd 芒'r grym i newid pethau, ganddyn nhw mae'r arian a'r p诺er.

"Ond hyd yn hyn tawedog iawn iawn ydi Carwyn Jones wedi bod yn y maes yna a dwi'n siomedig iawn yn hynny."

'Iaith yn bwysig'

Mae Carwyn Jones wedi dweud bod y ffaith ei fod wedi cymryd cyfrifoldeb am yr iaith yn dangos ei bwysigrwydd iddo ef, a'r llywodraeth.

"Ers canlyniadau'r cyfrifiad, rydyn ni wedi cymryd nifer o gamau pwysig i amddiffyn yr iaith, er enghraifft cyhoeddi safonau drafft newydd, cynlluniau addysg a chanllawiau cynllunio.

"Byddai ymateb dros nos i'r Gynhadledd Fawr wedi bod yn beth ff么l, yn enwedig gan fod nifer o adolygiadau o bolis茂au yn ymwneud 芒'r Gymraeg wedi bod ar waith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

"O fewn yr wythnosau nesaf, fe fyddaf i'n cyhoeddi datganiad polisi cynhwysfawr - sy'n tynnu at ei gilydd drafodaethau'r Gynhadledd Fawr yn ogystal 芒'r adolygiadau polisi.

"Bydd y datganiad yn nodi'r meysydd y byddwn yn canolbwyntio arnyn nhw dros y tair blynedd hollbwysig nesaf."