麻豆官网首页入口

'Agwedd gul Comisiynydd y Gymraeg', medd Heini Gruffudd

  • Cyhoeddwyd
Heini Gruffudd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mr Gruffudd yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Awdurdod y Gymraeg, corff a fyddai 芒 chyfrifoldeb dros hyrwyddo'r Gymraeg

Mae gan Gomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, "agwedd gul iawn" wrth ddehongli ei swydd trwy ganolbwyntio ar statws yr iaith a sicrhau hawliau siaradwyr Cymraeg, yn hytrach na'r defnydd ohoni yn y cartref a'r gymuned.

Dyna ddywedodd Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol i'r Iaith, y gr诺p lob茂o dros y Gymraeg, wrth 麻豆官网首页入口 Cymru Fyw cyn iddo draddodi darlith ar ddyfodol yr iaith nos Fawrth.

Doedd y Comisiynydd ddim am ymateb i'r sylwadau.

Mae Mr Gruffudd o'r farn y bu "bwriadau da" wrth lunio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ond bod ei ddylanwad wedi bod "bron yn negyddol", a bod Bwrdd yr Iaith, "er gwaethaf ei gwendidau a phrinder arian a ph诺er, wedi rhoi ffocws ar gyfer hyrwyddo'r iaith".

Eglurodd, "tra bod cymunedau Cymraeg yn cael eu chwalu, mae'r llywodraeth wedi bod yn canolbwyntio ar sicrhau statws a hawliau ieithyddol".

Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Awdurdod y Gymraeg, corff a fyddai 芒 chyfrifoldeb dros hyrwyddo'r Gymraeg ym meysydd addysg, yr economi, tai a'r diwylliant poblogaidd ynghyd ag ehangu'r defnydd ohoni fel iaith gwaith gan gyrff cyhoeddus a phreifat.

'Calon gwaith y llywodraeth'

"Dim sylw," oedd ymateb Comisiynydd y Gymraeg i'r hyn a ddywedodd Mr Gruffudd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Credwn fod cadw'r cyfrifoldeb am hybu'r Gymraeg wrth galon gwaith y llywodraeth yn ein helpu i brif ffrydio'r iaith ar draws pob maes polisi a'i chadw'n uchel ar yr agenda gwleidyddol.

"Bydd Prif Weinidog Cymru'n gwneud datganiad polisi maes o law yn amlinellu'r camau y byddwn yn eu cymryd i hybu'r iaith dros y tair blynedd nesaf."

Yn 么l Mr Gruffudd: "Mae anghenion y Gymraeg yn ymwneud 芒 pholis茂au economaidd a pholis茂au tai priodol yng nghadarnleoedd y Gymraeg, ac mewn ardaloedd llai Cymraeg mae'n hanfodol creu rhwydweithiau Cymraeg newydd i bobl ifanc ac i oedolion sy'n ei dysgu.

"Ond mae holl bwyslais Comisiynydd y Gymraeg wedi bod ar sicrhau ffurflenni Cymraeg a hawliau unigolion, a bron iawn ddim gwaith hyrwyddo defnydd y Gymraeg yn y cartref ac yn y gymuned".

'Corff lob茂o ymylol'

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ymateb y Comisiynydd Meri Huws: "Dim sylw"

Tra bod Comisiynydd y Gymraeg wedi ymwneud 芒 thua 70 o ymgynghoriadau ar fesurau, strategaethau a datblygiadau polisi, meddai Mr Gruffudd, "nid yw hanfodion cynllunio ieithyddol wedi bod ar yr agenda".

Ychwanegodd: "Er mai peth da yw sicrhau bod cyfreithiau newydd yn rhoi statws cyfartal i'r Gymraeg, mae r么l y Comisiynydd fel pe bai'n debyg i r么l corff lob茂o ymylol.

"Mae'n bryd mynd yn 么l i egwyddorion sylfaenol cynllunio ieithyddol mewn unrhyw wlad ag iaith leiafrifol. Y ddau faes pwysicaf i'r iaith yw'r cartref a'r gymuned. Dim ond yn 7% o gartrefi Cymru sy'n trosglwyddo'r Gymraeg i blant".

Dywedodd bod y 134 o Safonau sydd i fod i ddod i rym ym mis Tachwedd eleni, "yn delio bron yn gyfan gwbl gyda dogfennau, ffurflenni a hawliau unigolion.

"Mae'n beth da i gael y rhain, ond byddan nhw'n gwneud fawr ddim i hyrwyddo sgwrsio a thrafod yn Gymraeg".

'Camarweiniol'

Mae Mr Gruffudd o'r farn mai camarweiniol yw ffigurau'r cyfrifiad bod 582,368, neu 20.8% yn siarad Cymraeg, gan eu bod yn cynnwys disgyblion ysgolion cyfrwng Saesneg sy'n honni eu bod yn siaradwyr Cymraeg.

Gan mai "ychydig iawn" ohonynt sy'n rhugl, meddai, mae'n fwy cywir i ddweud bod 469,080 o siaradwyr Cymraeg, sef 16.7% o'r boblogaeth.

Roedd Heini Gruffudd yn un o sylfaenwyr canolfan Gymraeg T欧 Tawe, Abertawe. Mae hefyd yn gyn-gadeirydd Rhieni Dros Addysg Gymraeg, ac yn gyn-ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe.

Bydd y ddarlith Saesneg hon, a drefnwyd gan Brifysgol Abertawe a Chymdeithas Ddysgedig Cymru, yn adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd am 18:30 ddydd Mawrth, 17 Mehefin ac fe fydd darlith Gymraeg yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol