Mudiad iaith yn gosod pebyll o flaen y Senedd

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas yt iaith

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gosod pebyll o flaen y Senedd er mwyn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i newid eu polis茂au iaith.

Yn 么l y mudiad, y bwriad ydy lob茂o gwleidyddion wrth iddyn nhw fynd i mewn ac allan o'r adeilad.

Mae chwe phabell yno er mwyn cynrychioli'r chwe pholisi iaith maen nhw eisiau i'r llywodraeth fabwysiadu, sydd yn cynnwys addysg Cymraeg i bawb a newidiadau i'r system gynllunio.

Mae disgwyl i'r Prif Weinidog Carwyn Jones wneud datganiad brynhawn dydd Mawrth yngl欧n 芒'r iaith Gymraeg ac mae'r protestwyr yn dweud y byddan nhw yn aros yno tan hynny.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas yr iaith

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas yr iaith

Tua dwsin sydd yno ar y foment.

Mae'r Prif Weinidog wedi dweud y bydd yna "gig yn y datganiad ei hunan a bydd e'n dangos ffordd glir a manwl ymlaen ynglyn a'r iaith Gymraeg."

Ddim eisiau sefyllfa fel y Wyddeleg

Dywedodd mai ei flaenoriaeth oedd sicrhau "bod yr iaith yn parhau, yn enwedig wrth gwrs bod yr iaith yn parhau fel iaith gymunedol - ma hynny'n bwysig dros ben".

Fe ddywedodd o na fyddai o byth eisiau gweld sefyllfa fel sydd wedi digwydd yn Iwerddon gyda nifer bychan o gymunedau yn siarad yr iaith.

Mae'r weithred gyda'r mudiad iaith yn un o gyfres o brotestiadau sydd wedi eu cynnal dros yr wythnosau diwethaf.

Yn 么l Cymdeithas yr Iaith mae yna "ddiffyg gweithredu" wedi bod gan y llywodraeth ers i ganlyniadau'r Cyfrifiad gael eu cyhoeddi.

Ond mae'r llywodraeth wedi dweud ei bod yn benderfynol i weld y Gymraeg yn "tyfu" a'i bod wedi cymryd nifer o gamau i amddiffyn y Gymraeg, fel safonau newydd a chanllawiau cynllunio.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas yr iaith