拢1.25 miliwn ar gyfer canolfannau Cymraeg

Disgrifiad o'r llun, Ar 么l canlyniadau siomedig Cyfrifiad 2011, fe wnaeth llywodraeth Cymru sefydlu ymgynghoriad ar sut i hybu'r Gymraeg

Bydd 拢1.25 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn canolfannau iaith ac ardaloedd dysgu er mwyn hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg, yn 么l Llywodraeth Cymru.

Mae'r cyhoeddiad yn rhan o bolisi 'Bwrw 'Mlaen' y llywodraeth, fydd yn cael ei lansio ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Sir G芒r ddydd Mercher.

Bydd yr arian yn cael ei ddosbarthu trwy awdurdodau lleol, colegau a phrifysgolion i ddatblygu canolfannau iaith ar draws y wlad.

Er iddyn nhw groesawu'r canolfannau newydd, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar y llywodraeth i gynyddu eu gwariant ar wasanaethau cyfrwng Cymraeg.

'Ardaloedd iaith deinamig'

Wrth siarad cyn ei ymweliad 芒 Llanelli, dywedodd Carwyn Jones:

"Dyw hi ddim yn gyfrinach bod yr hinsawdd ariannol yn anodd ar hyn o bryd, a bod yn rhaid inni fod yn ddoeth wrth wario pob ceiniog. Dwi wrth fy modd, felly, ein bod ni wedi gallu dyrannu 拢1.25 miliwn i ddatblygu canolfannau Cymraeg ledled Cymru.

"Bydd yr ardaloedd iaith deinamig hyn yn golygu bod pobl yn gallu dod i gysylltiad 芒'r iaith ac fe fyddan nhw hefyd yn gweithredu fel hybiau cymunedol.

"Bydd yna bwyslais cryf ar gydweithio rhwng partneriaid er lles y gymuned ehangach. Fe fydd y cyllid yn cyfrannu at lawer o brif amcanion 'Bwrw 'Mlaen', gan gynnwys hyrwyddo'r iaith ar lawr gwlad."

Brand newydd

Fel rhan o'r datganiad, bydd y Prif Weinidog yn cyflwyno brand newydd, sef 'y llais', a gaiff ei ddefnyddio yn holl weithgareddau Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud 芒'r Gymraeg. Yn ogystal, bydd busnesau a sefydliadau partner yn cael eu hannog i'w ddefnyddio.

Bydd y brand hefyd yn rhan o ymgyrch newydd i hyrwyddo'r iaith - sef #pethaubychain - i geisio annog pobl i gymryd camau bach i ddefnyddio'r Gymraeg yn fwy o ddydd i ddydd.

Ychwanegodd y Prif Weinidog: "Mae yna lawer o bobl ledled y wlad sy'n gallu siarad Cymraeg, ond sydd ddim yn defnyddio'r iaith am wahanol resymau. Nod ymgyrch 'Pethau Bychain' fydd annog pobl i wneud newidiadau bach, syml i ddefnyddio'r iaith yn amlach. Gallai hyn olygu dewis yr opsiwn Cymraeg wrth dynnu arian o'r banc neu ganu c芒n Gymraeg gyda'u plentyn.

"Mae creu cyfleoedd i bobl siarad Cymraeg a rhoi'r hyder iddyn nhw wneud hynny yn ymrwymiadau allweddol yn natganiad heddiw. Rydyn ni'n gwybod ei bod hi'n amser tyngedfennol i'r Gymraeg ac y bydd y degawd nesaf yn dangos p'un a ydyn ni wedi llwyddo i'w chryfhau ai peidio.

"Yma yn y Llywodraeth, rydyn ni am wneud ein rhan yn yr her ac mae 'Bwrw 'Mlaen' yn amlinellu ffocws ein gwaith dros y tair blynedd hollbwysig nesaf. Rydyn ni'n disgwyl i'n partneriaid ledled y wlad wneud yr un peth. Mae angen ymrwymiad, dychymyg ac egni gan bawb."

Arian newydd?

Yn 么l y llywodraeth, mae'r arian diweddara' yn ychwanegol at 拢1.6 miliwn oedd eisoes wedi'i addo dros y ddwy flynedd nesaf i gryfhau'r cysylltiad rhwng y Gymraeg a'r economi a hybu'r iaith yn y gymuned.

Ond yn siarad ar faes yr Eisteddfod, dywedodd cyfarwyddwr cwmni Popeth Cymraeg, Ioan Talfryn, mai "symud arian o gwmpas" oedd y llywodraeth yn ei wneud, yn hytrach na rhoi arian ychwanegol.

"Yr hyn sy' 'di digwydd yw bod arian wedi cael ei dynnu oddi ar faes Cymraeg i Oedolion, ar gyfer y flwyddyn ariannol yma 'dy ni 'di colli 拢1.5m, a gollon ni rhyw 拢750,000 y llynedd, mae hynny'n 拢2.3m, a 'dy ni'n mynd i golli mwy o arian y flwyddyn nesaf.

"A wedyn mae'r 拢1.25m yma sy'n cael ei roi i hyrwyddo a datblygu canolfannau Cymraeg yn llai na'r arian sy'n cael ei golli eisoes."

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg hefyd wedi galw ar y llywodraeth i sicrhau y bydd yn cynyddu'r canran o'i chyllideb sy'n cael ei wario ar hyrwyddo'r iaith.

'Darlun ehangach'

Dywedodd Cadeirydd y Gymdeithas, Robin Farrar, ei fod yn bwysig gweld y "darlun ehangach".

"Mae'r rhan helaeth o wariant Llywodraeth Cymru yn fuddsoddiad mewn gwasanaethau cyfrwng Saesneg yn yr iaith Saesneg," meddai.

"Wythnosau'n unig wedi cyhoeddiad diwethaf Carwyn Jones, daeth i'r amlwg bod toriadau i ddysgu Cymraeg i Oedolion.

"Buddsoddiad pitw sydd ar hyrwyddo'r Gymraeg - tua 0.15% o holl gyllideb y Llywodraeth. Rhaid gofyn: a ydy'r pres yma'n ddigon i gynyddu gwariant y Llywodraeth ar y gwaith hollbwysig o hybu'r Gymraeg?"

Ar 么l canlyniadau siomedig Cyfrifiad 2011, fe wnaeth llywodraeth Cymru sefydlu proses ymgynghori - y Gynhadledd Fawr - yngl欧n 芒 sut i atal dirywiad yr iaith a sut i'w chryfhau.

Yn 么l y canlyniadau, 19% o drigolion Cymru wnaeth gofnodi eu bod yn siaradwyr Cymraeg.

Roedd nifer y siaradwyr wedi gostwng 20,000 ers 2001.