Pencampwriaeth MotoGP y Byd i'w chynnal yng Nglyn Ebwy

Disgrifiad o'r llun, Fe fydd y MotoGP yng Nglynebwy rhwng 2016 a 2024

Fe fydd pencampwriaeth MotoGP y Byd yn cael ei chynnal ar drac rasio Cylchffordd Cymru ger Glyn Ebwy o 2016.

Bydd rownd Prydain yn cael ei chynnal ar y trac newydd hyd nes 2024 ar 么l cytuno ar gytundeb pum mlynedd gydag opsiwn am bum mlynedd pellach gyda Dorna Sports S.L., sydd berchen yr hawliau masnachol.

Fe fydd y cydweithrediad yn cychwyn yn 2015 gyda'r Grand Prix a allai gael ei gynnal mewn lleoliad arall gan na fydd trac Blaenau Gwent yn barod.

Dywed y rhai tu cefn i'r cynllun fod y r datblygiad yn allweddol ar gyfer adfywio ardal Blaenau Gwent gan ei fod yn canolbwyntio ar gyflogi'r ifanc, addysg, strwythur academi a buddsoddiad mewn chwaraeon moduro.

"Mae'r cytundeb gyda Dorna yn gam allweddol yn natblygiad Cylchffordd Cymru," meddai Michael Carrick, Prif Weithredwr Cylchffordd Cymru.

Cydweithio

"Mae'r MotoGP yn binacl rasio beiciau modur ac mae'r disgwyliadau o fewn y byd rasio ac i'r miloedd o gefnogwyr byd eang y mae digwyddiadau o safon byd ac eiconig mewn safleoedd gwych.

"Rydym yn edrych ymlaen at gyrraedd y nod a chroesawu MotoGP i Gymru o 2016 ymlaen."

Ychwanegodd Carmelo Ezpeleta, Prif Weithredwr Dorna Sport S.L., eu bod wedi eu cyffroi o gydweithio mor agos gyda Chylchffordd Cymru wedi pedair blynedd o gysylltiad gyda'r prosiect.

"Mae'r addewid o gynnal MotoGP yn amlwg yn gatalydd i nifer eang o brosiectau sydd wedi eu hanelu at adfywio'r ardal."

Mae Cylchffordd Cymru yn brosiect 拢315 miliwn i ddatblygu ac adeiladu hwb i ddiwydiant rasio modur Prydain.

Adnoddau lleol

Dyma fydd y gylchffordd pwrpasol cyntaf ar gyfer Grand Prix beiciau modur.

Yn ogystal 芒'r trac rhyngwladol ac adnoddau ar gyfer pencampwriaeth byd fe fydd 'na westy a siopau ar y safle.

Fe fydd y trac 3.5 milltir yn cyd-fynd a thirwedd unigryw'r ardal a bydd adnoddau hyfforddi dan do yn cael eu datblygu, trac certio ac adnoddau hamdden.

Dywedodd y Cynghorydd Hedley McCarthy, arweinydd cyngor Blaenau Gwent, eu bod yn falch iawn bod y MotoGP yn dod i Gylchffordd Cymru.

"Mae'n bencampwriaeth arbennig a fydd yn cynnig hyder ar gyfer datblygu'r trac.

"Rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb i Flaenau Gwent."