麻豆官网首页入口

Crefydd a Chwaraeon: Profiad Emyr Lewis

  • Cyhoeddwyd
Emyr Lewis
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Emyr Lewis yn parhau i sylwebu ar rygbi i'r 麻豆官网首页入口 ac S4C

Mae cyn gapten t卯m rygbi Cymru Emyr Lewis wedi bod yn s么n sut mae Cristnogaeth wedi ei helpu ar 么l cyfnod anhapus yn ei fywyd.

Enillodd Emyr Lewis 41 o gapiau dros Gymru rhwng 1991 a 1996 a bu'n chwarae i dimau Llanelli a Chaerdydd.

Mae'n dweud ar raglen , sydd i'w darlledu ddydd Sul, ei fod wedi bod yn teimlo'n isel oherwydd pwysau gwaith ac oherwydd cenfigen tuag at chwaraewyr heddiw sy'n ennill cyflogau mawr.

Ond fe "ddigwyddodd rhywbeth", meddai, pan aeth i'r eglwys ar gyngor ei ffrind Garin Jenkins, cyn fachwr t卯m rygbi Cymru.

"Dechreues i swydd newydd rhyw flwyddyn yn 么l a dwi ddim yn si诺r iawn os mai pwysau'r swydd oedd e, pwysau'r gwaith, ac oni'n teimlo'n gymharol isel," meddai.

"'O'n i'n dueddol o farnu pobl, oedd 'na ddiffyg amynedd gyda fi tuag at y teulu a ffrindiau a hefyd oni'n genfigennus 'falle o'r chwaraewyr presennol sydd ar yr arian mawr hyn".

'Gweld y goleuni'

Ar 么l penderfynu un diwrnod bod yn rhaid iddo wneud rhywbeth am ei deimladau negyddol, derbyniodd awgrym Garin Jenkins i ddod i'r eglwys yn y Porth.

Er ei fod yn mynd i'r capel fel plentyn yng Nghaerfyrddin, dywedodd ei fod wedi bod yn rhy brysur i fynd yno ar 么l iddo ddechrau chwarae rygbi.

"Oni ddim yn disgwyl i ddim byd i ddigwydd ond mor gynted a gerddes i trwy'r drws, digwyddodd rhywbeth... ac o fanna weles i'r goleuni, fel petai," meddai Emyr Lewis.

Ychwanegodd: "Cwmpodd popeth yn ei le. Des i allan o'r eglwys yn hollol wahanol i fel es i fewn a doedd dim pwysau ar f'ysgwyddau i mwyach."

Mae'r rhifyn arbennig o am 08:00 fore Sul 24 Awst yn edrych ar y cysylltiad rhwng chwaraeon a chrefydd.

Wrth i'r tymor p锚l-droed newydd ddechrau, a phencampwriaethau mawr fel Cwpan y Byd a Tour de France eisoes wedi llenwi hanner cynta'r flwyddyn, mae'r rhaglen yn holi chwaraewyr, hyfforddwyr a chefnogwyr am yr her o fod yn Gristion ar y maes chwarae.

Hefyd gan y 麻豆官网首页入口