Llwybr arfordir yn ailagor yn y Fflint

Ffynhonnell y llun, John Haynes

Disgrifiad o'r llun, Y llwybr ar ochr orllewinol y lle sy'n cael ei alw'n Panton Cop

Mi fydd rhannau o Lwybr yr Arfordir gafodd eu niweidio gan lifogydd yn Sir y Fflint yn ailagor dros y penwythnos.

Bu'n rhaid i'r cyngor gau rhannau o'r llwybr wedi i dd诺r lwyddo i drechu'r amddiffynfeydd yn ystod stormydd y gaeaf, ac mae'r gwaith o atgyweirio wedi cymryd wyth mis i'w gwblhau.

Cafodd y rhan olaf o'r gwaith ei orffen ym Magillt ar forglawdd oedd wedi cael ei drechu gan y tonnau.

Dywedodd llefarydd amgylcheddol Cyngor Sir y Fflint, Bernie Attridge: "Mae'n wych i weld y llwybr yn agor o'r diwedd ac yn barod i'r cyhoedd ei fwynhau dros 诺yl y banc."

Llwybr Arfordir Cymru yw'r unig un yn y byd sy'n galluogi pobl i gerdded pob modfedd o arfordir gwlad.

Yn 870 o filltiroedd i gyd, gallwch ddechrau'ch taith ar lannau Afon Dyfrdwy a cherdded yr holl ffordd rownd nes cyrraedd Afon Hafren ger Casgwent.

Yn dilyn y stormydd fis Ionawr fe roddodd y llywodraeth gyfanswm o dros hanner miliwn o bunnoedd i 17 cyngor gwahanol er mwyn trwsio'r llwybr.