NatWest i gau tair cangen yn y de orllewin

Mae banc NatWest wedi cael eu beirniadu am y penderfyniad i gau nifer o ganghennau yn Sir G芒r a Dyffryn Teifi.

Fe dderbyniodd gwsmeriaid lythyr uniaith Saesneg gan y banc yn eu hysbysebu o'r ffaith y byddai canghennau Llandysul, Llanybydder a Hendy Gwyn ar Daf yn cau cyn diwedd y flwyddyn.

Roedd y llythyr hwn yn annog pobl i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein y banc neu Swyddfa'r Post.

Ond yn 么l Brian Teifi, sydd yn byw yn Llandysul ac yn berchen ar sawl busnes yn yr ardal, nid yw hyn yn ymarferol.

Dywedodd wrth Taro'r Post ar Radio Cymru: "Ry'n ni eisoes yn gwneud dipyn o waith ar-lein yn barod, ond mae 'na nifer o bethau chi moyn cerdded mewn i'r banc i'w gwneud, a ni'n gwneud hyn dwy waith, dair gwaith y dydd

"Os na fydd y gangen yna bydden ni'n gorfod trafeili i'r dref agosaf, falle Castell-nedd neu Gaerfyrddin a ma' hwnna'n meddwl mod i am golli'r ysgrifenyddes drwy'r bore a'r p'nawn."

Effaith ar yr iaith

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg hefyd wedi codi pryderon, gan ddweud y gallai'r penderfyniad effeithio ar allu cwsmeriaid i dderbyn gwasanaethau drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

Dywedodd Bethan Williams, swyddog maes y Gymdeithas yn Nyfed: "Mae'n warthus fod banc sydd i bob pwrpas tan berchnogaeth gyhoeddus yn dangos y fath ddirmyg a diffyg ymrwymiad at gynnal ein cymunedau Cymraeg.

"Bydd swyddi'n cael eu colli a gwasanaeth Cymraeg i gwsmeriaid yn cael ei golli gan fod y gwasanaethau ar-lein i gyd yn uniaith Saesneg.

"Mae'n afreal honni y gall swyddfeydd post gynnal yr holl ystod o wasanaethau bancio, yn enwedig o ystyried fod eu meistri preifat nhwythau hefyd yn ceisio eu cau neu eu gwthio i gefn siopau mawr."

Mae'r 麻豆官网首页入口 wedi gofyn i Nat West am eu hymateb i'r sylwadau.