Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Disgyblion: 'Cymwys am oes'
Fe ddylai plant Cymru fod yn "gymwys am oes" yn 么l cynllun newydd sydd 芒'r nod o wella perfformiadau disgyblion rhwng 3-19 oed.
Fe fydd y gweinidog addysg Huw Lewis yn amlinellu ei weledigaeth yn ddiweddarach ddydd Iau.
Bwriad cynllun Cymwys am Oes ydy gosod gweledigaeth y Llywodraeth hyd at y flwyddyn 2020 gyda'r nod y bydd pob disgybl yn elwa o ddysgu rhagorol.
Yn gynharach eleni roedd yna feirniadaeth gan Pisa, y corff sy'n cymharu perfformiad disgyblion ledled y byd, o'r llywodraeth am y diffyg gweledigaeth tymor hir o ran addysg.
Mae disgwyl y bydd Mr Lewis yn newid y targed mae'r llywodraeth wedi ei osod ar gyfer perfformiad Cymru o ran tablau Pisa.
Ar hyn o bryd y nod ydy cyrraedd yr 20 gwlad uchaf sy'n rhan o'r profion o fewn y ddwy flynedd nesaf.
Fe roedd Cymru o gwmpas y safle 40 allan o 68 y llynedd.