麻豆官网首页入口

Cymorth i'r digartref yn wynebu 'her'

  • Cyhoeddwyd
Person digartrefFfynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口 news grab

Mae ymgyrchwyr digartrefedd wedi honni y bydd rheolau newydd sy'n golygu bod yn rhaid i gynghorau Cymru weithredu er mwyn atal digartrefedd yn creu 'her fawr', a hynny oherwydd toriadau i gyllidebau cynghorau.

Mae penaethiaid elusennau yn cyfarfod yng Nghaerdydd ddydd Gwener er mwyn rhannu syniadau yngl欧n 芒'r ffordd orau i roi cymorth i'r rheiny mewn perygl o fod yn ddigartref.

Mae'r digwyddiad wedi'i drefnu gan Cymorth Cymru, gr诺p sy'n cynrychioli degau o fudiadau.

Dywedodd cyfarwyddwr Cymorth Cymru, Auriol Miller, ei bod hi'n croesawu'r Ddeddf Dai, ond rhybuddiodd bod gwasanaethau'n cael eu torri.

Dywedodd bod cynghorau'n derbyn 拢4.9 miliwn yn ychwanegol ar gyfer paratoi ar gyfer eu cyfrifoldebau newydd, ond eu bod nhw hefyd yn wynebu toriadau o bron i 拢10 miliwn i'w cyllidebau sydd wedi eu clustnodi ar gyfer cefnogi pobl fregus yn 2015-16.

"Maen nhw'n gwneud llawer o waith paratoadol da iawn, ond rydym yn pryderu yngl欧n 芒'u gallu i wneud y mwyaf o hyn os nad ydyn nhw'n gallu cynnig gwasanaethau cefnogol", meddai.

Bydd cyfarwyddwr Shelter Cymru, John Puzey, yn annog cynrychiolwyr i gefnogi "newid sylweddol yn niwylliant darparu gwasanaethau" er mwyn sicrhau bod y cyfreithiau newydd yn llwyddo.

Ychwanegodd: "Yn aml mae pobl gyda phroblemau yn ymwneud 芒 thai yn cael eu gorfodi mewn i feddylfryd o fod yn "ddioddefwyr", gan geisio profi eu bod nhw angen cymorth, yn hytrach na derbyn y gefnogaeth i allu datrys eu problemau a rheoli eu bywydau eu hunain."