麻豆官网首页入口

Galw am wella trafnidiaeth gogledd Cymru

  • Cyhoeddwyd
traffig m4
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pryderon fod gormod o bwyslais yn cael ei roi ar wella'r M4, a bod rhwydwaith trafnidiaeth y gogledd yn cael ei amddifadu

"Mae angen agwedd decach wrth fynd i'r afael 芒 phroblemau trafnidiaeth gogledd Cymru er mwyn gwella cysylltiadau, a rhoi hwb i'r economi leol a helpu busnesau", yn 么l gwleidyddion yr ardal.

Wrth i'r dadlau barhau am adeiladu ffordd osgoi newydd yr M4 - cynllun gwerth biliwn o bunnau - cynyddu mae'r pryderon am bwyslais Llywodraeth Cymru ar brosiectau trafnidiaeth yn y de.

Ond mae llefarydd ar ran y llywodraeth wedi dweud bod cysylltiadau trafnidiaeth yn cael eu gwella ar draws Cymru gyfan.

Yn 么l Mark Tami - AS Llafur dros Alun a Glannau Dyfrdwy - mae angen gwella cysylltiadau - ar y rheilffyrdd a'r ffyrdd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mark Tami AS eisiau gweld cysylltiadau trafnidiaeth gwell yng ngogledd Cymru

Yn siarad ar raglen Sunday Politics Wales, Dywedodd Mr Tami fod angen "tegwch" wrth edrych ar ariannu prosiectau trafnidiaeth mawr.

"Mae pryder fod 'na ganolbwyntio wedi bod ar un prosiect mawr yn ne Cymru,

"Rydyn ni am weld ffordd decach o edrych ar faterion sy'n ymwneud 芒 chludiant. Heb wario symiau enfawr o arian fe allech chi wneud gwelliannau sylweddol yng ngogledd ddwyrain Cymru a dyna yw canolfan gweithgynhyrchu Cymru."

Trydaneiddio'r rheilffordd

Byddai trydaneiddio rheilffyrdd hefyd yn gwneud gwahaniaeth mawr i ogledd Cymru yn 么l Mr Tami.

Mae degau o filoedd o gerbydau'n teithio ar yr A55 bob dydd - ond mae'r Aelod Seneddol yn teimlo fod y gwaith ffordd a thagfeydd yn broblem oesol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mr Tami yn dymuno gweld y rheilffordd ar hyd arfordir gogledd Cymru yn cael ei thrydaneiddio

Yn 么l Alan Ashworth, perchennog bragdy bach yn Ninbych, sydd hefyd yn gadeirydd gr诺p busnes lleol, "mae diffygion y system drafnidiaeth yn effeithio ar fusnesau.

"Y brif broblem yw'r diffyg sicrwydd fy mod i'n gallu cyrraedd tafarndai neu wyliau cwrw oherwydd problemau ar yr A55 - mae'n anodd gwybod os hi ar gau neu ar agor - mae'n amhosib bod yn siwr, " dywedodd.

Mae arbenigwr trafnidiaeth sy'n cynghori Llywodraeth Cymru, Stuart Cole hefyd yn dweud bod busnesau'n talu'r pris

"Maen nhw'n colli allan achos mae'n rhaid cael system drafnidiaeth effeithiol - y rheilffyrdd neu'r ffyrdd - mae'n rhaid i'r cysylltiadau fod yn dda achos da ni'n cystadlu yn y gogledd ac yn de gyda llefydd eraill yn yr undeb Ewropeaidd - lle mae costau talu pobl llawer yn llai.

"Felly 'da ni'n gorfod ffeindio ffordd i ddod 芒 chostau i lawr."

Strwythur cenedlaethol i Gymru

Mae'r A55 yn rhedeg drwy etholaeth gyfan yr Aelod Cynulliad, Aled Roberts, sydd eisoes wedi codi ei bryderon gyda'r Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart

"Be 'da ni angen yw strwythur cenedlaethol i Gymru ac mae nifer ohonom ni'n poeni fod yr holl sylw yn cael ei rhoi i drafnidiaeth yn y de, ac yn diystyru ein anghenion ni yma yn y gogledd," ychwanegodd.

"Yn bendant mae angen i ni gael ffordd dda yma, yn ystod yr haf mae'r holl dwristiaid yn dibynnu ar y ffordd yma - ac yn rhy aml yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf 'ma, mae'r ffordd wedi bod ynghau.

"Mae hyn yn creu problemau i fusnesau ac i bobl sy'n ymweld 芒'r gogledd."

Mae Edwina Hart yn dweud ei bod wedi dechrau ar y gwaith o gynllunio gwelliannau i'r A55 - gyda buddsoddiad o 拢42 miliwn ar gyfer y twneli.

Mae'r llywodraeth hefyd yn dweud eu bod yn edrych ar ffyrdd o leddfu tagfeydd ar Bont Britannia a bod gwaith gwerth dros 拢3miliwn wedi dechrau er mwyn cyflwyno cyfres o fesurau ar yr A55 a'r A494 i wella llif y traffig wedi damweiniau.

Gellir gwylio Sunday Politics ar 麻豆官网首页入口 One Wales ddydd Sul 20 Hydref am 11:00am.