Troi'r Cloc?

Ffynhonnell y llun, Other

Disgrifiad o'r llun, Faint o'r gloch yw hi?

Os ydych chi yn darllen hwn am 9:00 fore dydd Sul, gwnewch yn si诺r nad 8:00 ydi hi!

Am 12:00 nos nos Sadwrn mi fyddwn ni'n troi'r clociau awr yn 么l.

Ond pam ydan ni'n troi'r clociau? Ydi o'n syniad da? Oes ffordd arall, well, yn bosib?

Pam bod y clociau yn cael eu troi?

Ffynhonnell y llun, Mark Eagle

Disgrifiad o'r llun, Mae'n amser dweud helo wrth foreau goleuach

Y syniad tu 么l i amser haf neu British Summer Time (BST) yw gwneud i bobl godi'n 'gynt' fel eu bod yn gwneud y gorau o haul gyda'r nos yn ystod yr haf.

Mae hyn yn cael ei wneud drwy ychwanegu awr i amser Greenwich Mean Time (GMT). Felly BST = GMT+1.

Golyga hyn mai Dydd Sadwrn Mehefin 21 oedd diwrnod hira'r flwyddyn.

Heb BST mi fyddai'r haul yn codi am 3:43 y bore a machlud am 9.21 yr hwyr. Gyda BST roedd yr haul yn codi am 4:43 y bore ac yn machlud am 10:21 yr hwyr.

Felly, roedd mwy o bobl yn effro yn ystod yr oriau pan roedd yr haul i'w weld.

Ond pam ddim defnyddio BST trwy'r flwyddyn?

Ffynhonnell y llun, Eric Scadding

Disgrifiad o'r llun, Mae hi hefyd yn amser i ddweud ffarwel wrth ein gyda'r nosau golau

Dyw'r achos dros gadw BST yn y gaeaf ddim mor glir oherwydd bod nifer yr oriau o haul yn gyfyngedig, ac mai'n mynd yn fater o ddewis o gael haul yn y bore neu haul yn y prynhawn.

Pryd fydda'n well gennych chi gael yr haul ar y diwrnod mae'r clociau yn troi 'n么l yn 2014, sef Hydref 26: rhwng 6:34am a 4:55pm neu rhwng 7:34am a 5:55pm?

Mi fyddai llawer o bobl yn dewis cael awr ychwanegol o haul gyda'r nos yn hytrach nag awr pan roeddwn nhw yn diogi yn eu gwl芒u.

Ond os edrychwn ni sut ar ddiwrnod byrraf y flwyddyn, Rhagfyr 21 ar gyfer 2014, gyda'r awr o wahaniaeth mae pethau'n edrych yn wahanol.

Gyda GMT mi fydd yr haul yn codi am 8:03am ac yn machlud am 3:53pm. Mae hynny'n fachlud cynnar iawn ac mi fydd y nos yn hir. Ond y dewis arall yw iddi fod yn dywyll tan 9:03am ac mi fyddai rhieni'n gorfod mynd a'u plant i'r ysgol yn y tywyllwch.

Ffynhonnell y llun, SPL

Disgrifiad o'r llun, Ydan ni angen ailfeddwl pryd rydym yn cysgu?

Hel pryfaid

George Vernon Hudson o Seland Newydd oedd y cyntaf i gynnig y syniad o droi'r clociau yn ystod yr haf a hynny yn 1895 er mwyn caniat谩u iddo allu mynd i gasglu pryfaid gyda'r nos.

Dyma oedd diddordeb mawr Hudson ac mae ei gasgliad - y mwyaf yn Seland Newydd - yn cael ei arddangos yn amgueddfa genedlaethol y wlad.

Mae'n debyg bod Sais o'r enw William Willett wedi cael yr un syniad 芒 Hudson yn 1905, yn gwbl ar wah芒n, pan roedd yn teithio o gwmpas Llundain.

Sylwodd bod nifer o drigolion y ddinas yn cysgu drwy rai o oriau hyfrytaf y dydd a phenderfynodd wneud rhywbeth am y peth. Roedd hefyd yn dipyn o olffiwr ac eisiau gallu chwarae'n hirach gyda'r nos.

Fe berswadiodd ei Aelod Seneddol i gyflwyno mesur fyddai'n edrych ar y mater, ac er iddo gael ei ystyried cafodd ei roi o'r neilltu am y tro. Dyw pobl ddim yn hoffi newid.

Ffynhonnell y llun, Arall

Disgrifiad o'r llun, Mae glo wedi chwarae rhan ganolog yn y ddadl

Dylanwad y Rhyfel Mawr

Y Rhyfel Mawr oedd y sbardun wnaeth orfodi gwledydd i droi'r clociau gyda'r Almaen ac Awstria-Hwngari yn arwain y ffordd gan ddechrau ar Ebrill 30, 1916.

Dim ond un peth oedd yn ysgogi gwledydd i weithredu bryd hynny sef ceisio sicrhau mantais dros wledydd eraill er mwyn gallu eu trechu. Roedd troi'r clociau yn arbed glo, gan ei bod hi'n oeri'n hwyrach yn y dydd.

Unwaith roedd un wlad yn cael mantais roedd yn rhaid i'r gwledydd eraill wneud yr un fath, ac o fewn dyddiau roedd llu o wledydd wedi gwneud yr un fath gan gynnwys Gwlad Belg, Denmarc, Ffrainc, yr Eidal, Lwcsembwrg, yr Iseldiroedd, Norwy, Portiwgal, Sweden, Twrci ac, ychydig yn annisgwyl, Tasmania.

Dilynodd Prydain dair wythnos yn ddiweddarach, ond fe aethon yn 么l i'r hen drefn ar 么l y rhyfel.

Ers hynny mae gwahanol wledydd wedi mabwysiadu gwahanol systemau o droi'r clociau. Mae system Prydain yn waddol o argyfwng egni'r 70au pan gafodd BST ei gyflwyno er mwyn arbed glo (ia, glo unwaith eto!).

Disgrifiad o'r llun, Roedd Churchill yn un o gefnogwyr Amser Haf Dwbl

Pwy sydd eisiau newid?

Mae nifer o sefydliadau ac unigolion yn teimlo'n gryf bod angen newid y system yn llwyr, gan ddadlau bod angen symud i Amser Haf Dwbl.

Mi fyddai hyn yn golygu ychwanegu awr i'r clociau fel y maen nhw yn sefyll ar hyn o bryd. Felly mi fyddai'r clociau yn yr haf yn dangos GMT+2 gyda GMT+1 yn y gaeaf.

Mae cefnogwyr y syniad yn amrywio'n fawr - o , i , i .

Achub bywydau

Mae Rospa, sef y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau yng Nghymru, sy'n dadlau y byddai newid y system yn achub rhyw 80 o fywydau y flwyddyn, yn deall y broblem Albanaidd.

Dyma pam mae'r prif weithredwr Tom Mullarkey wedi gwneud y cynnig diddorol hwn:

"Ar hyn o bryd gwrthwynebiad honedig yn yr Alban sydd yn atal y broses, felly rydym yn galw ar William Hague [sy'n cadeirio pwyllgor arwyddocaol ar ddatganoli] i drosglwyddo'r p诺er dros amser er mwyn gostwng y nifer o fywydau sy'n cael eu colli neu eu niweidio ar y ffyrdd."

Disgrifiad o'r llun, Mae gwartheg hefyd yn dylanwadu'r ddadl

Ffermwyr

Ond nid Albanwyr a Hefin Thomas yw'r unig bobl sy'n gwrthwynebu newid. Mi fyddai'n anghyfleus i ffermwyr, sydd angen codi'n gynnar i odro ac ati, a dyw newidiadau sy'n achosi anghyfleustra i ffermwyr ddim yn hawdd i'w gweithredu.

Y tro diwethaf y cafodd y mater ei drafod yn San Steffan oedd yn 2012 ond ni chafodd y bil ei ddatblygu oherwydd bod gr诺p bach o ASau wedi siarad gan atal pleidlais rhag cael ei chymryd - rhywbeth sy'n cael ei alw yn herwddadlau (filibustering).

Ond y teimlad yw mai dim ond mater o amser yw hi nes i'r ymgyrch aildanio unwaith eto.

Beth yw'ch barn chi ar y pwnc? Cysylltwch gyda cymrufyw@bbc.co.ukneu ar Twitter @麻豆官网首页入口Cymru.