Swyddfeydd Post: Un yn cau bob mis yng Nghymru?

Er honiadau bod nifer swyddfeydd post yng Nghymru 'yn fwy sefydlog nag y buon nhw ers blynyddoedd', mae mwy nag un wedi cau bob mis eleni hyd yn hyn.

Mae Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru wedi canfod bod o leia' 12 swyddfa wedi cau ers mis Ionawr 2014, gyda phryder am ddyfodol dwy swyddfa arall.

Yn ôl Swyddfa'r Post - does yna ddim cynllun i gau canghennau, ond mae ambell i swyddfa "wedi cau dros dro" wrth iddyn nhw chwilio am berchnogion neu leoliad newydd.

Ond yn ôl undeb gweithwyr y diwydiant cyfathrebu (CWU), mae'n "gamarweiniol" i awgrymu nad oes 'na gynllun cau, gan fod ambell i gymuned yn ofni y byddan nhw'n colli eu cangen oherwydd gostyngiad yn y comisiwn i berchnogion.

Ardaloedd gwledig

Mae rhai o'r canghennau sydd ynghau - nifer ohonynt yn safleoedd bychain mewn ardaloedd gwledig - yn ceisio ail-agor mewn lleoliad arall, megis siopau pentref, ond dyw pencadlys y Swyddfa Bost heb gadarnhau pryd fydd hyn yn digwydd.

Fe ddywedodd Mark Baker o'r CWU: "'Dy ni angen strategaeth ar gyfer y dyfodol er mwyn cynnal canghennau.

"Yr unig beth wnaiff wahaniaeth ydi 'banc y bobl' - banc cynilo, yn debyg i'r hen drefn.

"Byddai hyn yn gwneud y canghennau bychain yn ymarferol eto."

Yn ôl ffigyrau Swyddfa'r Post - mae rhwydwaith canghennau Cymru yn fwy sefydlog nag y bu ers degawdau. Dyma nifer y swyddfeydd post oedd ar agor ddiwedd Mawrth yn y pum mlynedd ddiwethaf:

  • 2010 - 963
  • 2011 - 950
  • 2012 - 957
  • 2013 - 957
  • 2014 - 954

Mae'r Aelod Seneddol, Jonathan Edward hefyd wedi mynegi ei bryderon am swyddfeydd post sy'n parhau i fod ar agor, wedi iddyn nhw orfod symud safle i arbed arian.

Mae o'n honni y bydd y swyddfeydd yn cael llai o arian gan Swyddfa'r Post i aros ar agor - gan beryglu mwy o ganghennau.

Yn ôl llefarydd ar ran Swyddfa'r Post, mae 181 o swyddfeydd "wedi eu moderneiddio ers dechrau ymgyrch i drawsnewid y gwasanaeth yng Nghymru yn 2012. 

"Mae'r rhwydwaith bresennol o 954 cangen, a'r oriau ychwanegol y maen nhw ar agor, yn golygu fod cwsmeriaid ledled Cymru wedi gweld cynnydd o 21% yn oriau'r gwasanaeth hyd yn hyn.

"'Dy ni'n gobeithio parhau â'r gwaith ailwampio hyd diwedd yr ymgyrch yn 2018."