麻豆官网首页入口

Gobaith am goleg milfeddygon newydd yn Aberystwyth?

  • Cyhoeddwyd
prifysgol aberystwyth
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r milfeddyg Gwen Rees yn gobeithio y bydd ysgol filfeddygol newydd yn dod i Aberystwyth

Mae'n bosib y bydd Prifysgol Aberystwyth yn ystyried cynlluniau i sefydlu ysgol milfeddygaeth gyntaf Cymru.

Nid oes unrhyw sefydliad yng Nghymru yn cynnig cwrs sy'n gydnabyddedig gan Goleg Brenhinol y Milfeddygon ac mae'r cyrsiau agosaf ym Mryste neu Lerpwl.

O 2015 ymlaen, bydd gradd bio-wyddorau milfeddygol o Aberystwyth yn caniat谩u i raddedigion gael swyddi sy'n gysylltiedig 芒 milfeddygaeth, ond ddim i gynnal llawdriniaethau ar anifeiliaid.

Mae'r brifysgol yn gobeithio y bydd yn "paratoi'r ffordd" ar gyfer y datblygiad posib o allu cynnig gradd filfeddygol yn y dyfodol.

Gallai'r cwrs newydd arwain at swyddi fel diagnostegwyr labordy milfeddygol, arolygwyr lles neu weithwyr gofal anifeiliaid, ond bydd yn rhaid i fyfyrwyr gael cymwysterau pellach i fod yn filfeddyg.

'R么l allweddol'

Mae'r milfeddyg Gwen Rees yn gobeithio y bydd ysgol filfeddygol newydd yn dod i Aberystwyth.

"Byddwn i wedi gwneud cais i astudio mewn prifysgol yng Nghymru os byswn wedi cael y cyfle. Os ydych yn fyfyriwr Cymraeg 'da chi jyst ddim yn cael y dewis," meddai Ms Rees, a adawodd Llanelli i astudio yn Lerpwl.

Mae Ms Rees bellach yn gweithio yn yr ysgol filfeddygol ym Mhrifysgol Bryste a dywedodd nad oedd wedi ei synnu gan y diffyg hyfforddiant yng Nghymru: "Mae'n gwrs aruthrol helaeth i redeg".

Mae gan Brifysgol Aberystwyth arbenigedd mewn gwyddorau anifeiliaid a chafodd cais blaenorol am gyllid i sefydlu ysgol filfeddygol ei wrthod yn 2002.

Dywedodd llefarydd o Brifysgol Aberystwyth: "Gallwn chwarae r么l allweddol i helpu i gwrdd 芒'r cyfleoedd a'r heriau a wynebir gan y sector da byw a chyflenwyr bwyd, yn enwedig er budd yr economi wledig yng Nghymru."