麻豆官网首页入口

Lidl: 'Dim hawl' i siarad Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
LidlFfynhonnell y llun, Reuters

Mae gweithwyr Lidl yn cael eu hatal rhag siarad unrhyw iaith heblaw'r Saesneg yn eu siopau ym Mhrydain.

Daeth y newyddion yma yn dilyn digwyddiad yn Yr Alban lle cafodd gweithwyr eu gwahardd rhag siarad Pwyleg gyda'i gilydd.

Fe gafon nhw wybod pe na baen nhw'n siarad yn Saesneg, y bydden nhw'n wynebu cael eu diswyddo.

Roedden nhw'n siarad Pwyleg yn ystod eu hamser paned yn y siop yn Kirkcaldy yn Yr Alban.

Cysylltodd 麻豆官网首页入口 Cymru Fyw 芒 Lidl UK i gael gwybod mwy am eu polisi iaith yma yng Nghymru.

Saesneg yn unig

Yn 么l llefarydd ar ran cwmni Lidl UK, polisi'r cwmni ydy bod y gweithwyr yn siarad yn Saesneg efo'i cwsmeriaid bob amser waeth beth fo'u hiaith frodorol.

Golyga hyn felly nad oes gan weithwyr y siop hawl i siarad 芒'i gilydd, na chwaith y cwsmeriaid, yn Gymraeg yn eu siopau yng Nghymru.

Ychwanegodd y llefarydd bod y polisi yma yn sefyll "er budd yr holl gwsmeriaid yn ogystal 芒'r staff er mwyn sicrhau awyrgylch lle bod pawb yn teimlo'n gynwysiedig."

"Gall gweithwyr Lidl droi at famiaith y cwsmer, dim ond os nad ydy'r cwsmer yn medru siarad Saesneg."

Mae llefarydd ar ran Comisynydd y Gymraeg wedi dweud ei bod hi'n ymchwilio i'r mater.

Dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "Mae'r polisi hwn yn warthus. Mae ein swyddogion heddiw wedi cysylltu 芒 swyddfa Comisiynydd y Gymraeg gan ofyn iddi gyhoeddi y bydd ymchwiliad i mewn i'r cwmni yn syth.

'Statws swyddogol'

"Ers i Fesur y Gymraeg gael ei basio bedair blynedd yn 么l mae wedi bod yn anghyfreithlon i atal staff rhag siarad Cymraeg gyda chwsmeriaid sy'n dymuno siarad Cymraeg."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gan yr iaith Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru, ac mae darpariaeth ym Mesur y Gymraeg i amddiffyn rhyddid pobl i ddefnyddio'r iaith.

"Mae gan Gomisiynydd y Gymraeg b诺er i ymchwilio i mewn i unrhyw g诺yn ar y mater ac i lunio adroddiad ar gyfer ystyriaeth Gweinidogion Cymru."