麻豆官网首页入口

拢800,000 i greu canolfannau i ddatblygu'r iaith Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
CymraegFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi datgelu faint o arian fydd yn cael ei fuddsoddi i sefydlu canolfannau iaith ar draws y wlad.

Hybu pobl i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd ydy nod y cynllun, gafodd ei gyflwyno mewn digwyddiad yn Llanelli fore dydd Mercher.

Bydd dros 拢800,000 yn cael ei roi i sefydlu a datblygu canolfannau i ddysgu'r Gymraeg yn ystod 2015.

Mae'r arian, sy'n dod gan y llywodraeth, yn cael ei roi i bedair canolfan yng Nghymru.

Mae'r arian yn rhan o'r 拢1.25m gafodd ei gyhoeddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst.

Yn 么l y llywodraeth, y bwriad yw rhoi cyfle i awdurdodau lleol, colegau a phrifysgolion greu "canolfannau deinamig lle bydd pobl yn gallu dysgu neu ymarfer eu Cymraeg".

Y prosiectau fydd yn rhannu'r arian yw:

  • Cyngor Ynys M么n (拢138,723): Datblygu canolfannau'r sir ar gyfer dysgu Cymraeg i oedolion

  • Prifysgol y Drindod Dewi Sant (拢300,000): Prynu adeilad yng nghanol Caerfyrddin i greu canolfan iaith amlbwrpas

  • Cyngor Sir Gaerfyrddin (拢70,000): Datblygu canolfan iaith amlbwrpas ar y cyd gyda phartneriaid

  • Coleg Cambria (拢300,000): Canolfan i ddysgu sgiliau Cymraeg i'r gweithle, i wella cyfleoedd dysgu i fusnesau yng nghanol Wrecsam.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yng nghanol tref Wrecsam, y bwriad yw creu canolfan i ddysgu sgiliau Cymraeg sy'n berthnasol i'r gweithle

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y ganolfan yn Wrecsam yn cael ei gweithredu gan Goleg Cambria

Yng Nghaerfyrddin, bydd yr arian yn galluogi Prifysgol y Drindod Dewi Sant i brynu adeilad yng nghanol y dref a'i droi'n ganolfan gymunedol er mwyn hyrwyddo'r Gymraeg yn yr ardal.

Dywedodd Gwilym Dyfri Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Cysylltiol oedd hefyd yn gyfrifol am lunio cais ar ran y Brifysgol, mai "dwyieithogi Caerfyrddin gan ganolbwyntio'n benodol ar wneud y Gymraeg yn fwy gweladwy a chlywadwy o gwmpas y dref" oedd prif nod y ganolfan.

Ychwanegodd: "Dymuniad y Brifysgol yw gweld y ganolfan yn datblygu'n ffocws ar gyfer y Gymraeg yn nhref Caerfyrddin ac y caiff ei phresenoldeb effaith gadarnhaol ar sefydliadau a busnesau eraill o fewn y dref."

Gobaith y brifysgol yw agor y ganolfan newydd yn swyddogol ym mis Mawrth 2015.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Carwyn Jones yn dweud y bydd canolfannau Cymraeg yn chwarae rhan bwysig i hwyluso defnydd o'r iaith o ddydd i ddydd

Mae'r Llywodraeth yn dweud bod yr arian yn helpu i wireddu eu polisi 'Bwrw Mlaen' - .

Yn 么l y Prif Weinidog, Carwyn Jones mae annog pobl i ddefnyddio'r Gymraeg bob dydd "yn rhan ganolog o'n hymrwymiadau yn Bwrw Mlaen".

"Bydd y prosiectau dwi'n eu cyhoeddi heddiw yn creu canolfannau dysgu deinamig yn ein trefi a'n cymunedau, sef canolfannau a fydd yn ganolbwynt ymarferol ar gyfer hybu'r iaith ymhlith pobl o bob oed."

Un canolfan fydd yn elwa o'r buddsoddiad yn Sir Gaerfyrddin yw Y Lle yn Llanelli.

Dywedodd Mr Jones: "Bydd canolfannau megis 'Y Lle' yn Llanelli yn chwarae rhan allweddol yn yr ymgyrch i hybu'r defnydd o'r Gymraeg. Bydd yn cynnig cyfle i bobl ymarfer eu Cymraeg a meithrin eu hyder.

"Dw i'n edrych ymlaen at glywed sut mae pob un o'r prosiectau hyn yn datblygu yn ystod y misoedd nesaf."