麻豆官网首页入口

Ateb y Galw: Dei Tomos

  • Cyhoeddwyd
Dei Tomos

Yr wythnos yma y cyflwynydd Dei Tomos sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw, wedi iddo gael ei enwebu gan y digrifwr Eilir Jones.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Eistedd ar lin fy ewythr ar setl yn y gegin, roedd o wedi colli un goes mewn damwain yn Chwarel Dinorwig.

O dan sedd y setl roedd paceidiau o siwgr a the yr oedd fy nain wedi eu hel fel wiwer yn sgil y dogni yng nghyfnod yr Ail Ryfel Byd a'r blynyddoedd wedyn.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?

Dyna hen gwestiwn bach anodd. Roedd Lisabeth Miles a Christine Pritchard yn y chweched pan oeddwn i yn fy mlwyddyn gynta yn y 'Cownti' (Ysgol Ramadeg Caernarfon) - roedd rheiny ac un neu ddwy o genod eraill yn rhai 'handi' ym marn yr hogia.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Lis, oedd Dei yn tueddu i 'neud cawl o bethau yn y 'Cownti'?"

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Methu arholiadau terfynol yn y Coleg, ond diolch i'r drefn nid y fi oedd yr unig un. Fe fethodd David Evans hefyd, roedden ni o'r un pentre ac wedi bod yn gyfoedion a chyfeillion ysgol gynradd ac uwchradd.

Onibai am hynny byddai'r cywilydd wedi bod ddwywaith gwaeth.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Colli Mam ddwy flynedd yn 么l, dagrau oedd y rheiny am yr hyn a fu ac na fu, roedd fy nhad wedi marw bron i hanner can mlynedd cyn hynny.

Ond os s么n am igian crio yna sefyll wrth fedd fy hen ewyrth, fu farw flynyddoedd cyn fy ngeni, yn un o fynwentydd y Rhyfel Mawr yn ardal brwydrau'r Somme.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Blydi hel, oes - gwylltio fel matsien.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mae fama dipyn uwch na Phen y Pas!" Mae'n well gan Dei ddringo llethrau Everest efo Eric Jones 'na cherdded dinasoedd.

Dy hoff ddinas yn y byd?

Does gen i ddim i'w ddweud wrth ddinasoedd, ond mae gen i atgofion melys am brydau da o fwyd yn Nairobi a Reykjavik.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Can诺io yng ngolau lleuad i lawr aber afon Mawddach i'r bar yn y m么r ac yna i draeth y Friog.

Oes gen ti dat诺?

Mewn difri, y fi? Na.

Beth yw dy hoff lyfr?

Cwestiwn anos na'r un am ferched. Into the Silence gan Wade Davis; g诺r o Ganada sydd wedi ysgrifennu'n helaeth am bobloedd a mannau anhygyrch y byd.

Mae'r llyfr yma yn olrhain hanes cynnar yr ymdrech i gyrraedd at droed Everest. Mae'n stori arwrol, ac yn fwy felly am fod y dyrnaid yma o fforwyr a mynyddwyr wedi goroesi'r Rhyfel Mawr. Wedi erchyllterau'r ffosydd, beth oedd mymryn o annifyrrwch yn lluwchfeydd y llethrau uchaf?

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y t卯m o fynyddwyr arwrol sydd yn 'Into the Silence'

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Anorac Gortex, a ph芒r o sgidiau cryfion.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welais di?

War Horse.

Dy hoff albwm?

Hen Ffordd Gymreig o Fyw, Edward H er cof am y nosweithiau o geisio cynnal disgos o gwmpas Cymru yn nyddiau cynnar y canu poblogaidd.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?

Ail gwrs sy'n cynnwys cig Cymreig o ffermydd lleol (a'r anifeiliaid fel y dywed hysbyseb yn siop Wil y Cigydd yn Machynlleth 'i gyd yn vegetarians').

Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?

Gair ar y ff么n bob amser.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Bradley Wiggins yn y crys melyn (Maillot jaune) ar y Champs-脡lys茅es ym Mharis yn ennill ras fawr y Tour de France.

Pwy fydd yn Ateb y Galw wythnos nesa'?

Yr Athro Derec Llwyd Morgan.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mi fyddai Mr Tomos fel Dei-namo yn y Tour De France!