麻豆官网首页入口

Comisiynydd i adolygu gwasanaethau Cymraeg y banciau

  • Cyhoeddwyd
Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws.

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi ddydd Llun y bydd yn cynnal adolygiad statudol i'r gwasanaethau Cymraeg sy'n cael eu cynnig gan fanciau yng Nghymru.

O dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, mae gan y Comisiynydd b诺er i wneud unrhyw beth sy'n briodol yn ei thyb hi i hybu a hwyluso defnydd o'r Gymraeg.

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: "Dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf rwyf wedi gweld cynnydd sylweddol yn y cwynion am wasanaethau Cymraeg y banciau. Rwyf hefyd wedi derbyn tystiolaeth gan fudiadau gwirfoddol yn nodi pryderon penodol am y sector.

"Mae'n amlwg felly bod darpariaeth Gymraeg y banciau yn peri pryder i aelodau'r cyhoedd ar draws Cymru. Drwy gynnal adolygiad statudol, byddaf yn edrych yn fanwl ar y dystiolaeth sydd eisoes wedi dod i law. Rwyf hefyd yn gwahodd unigolion a mudiadau eraill i gysylltu 芒 mi ac i rannu eu profiadau o ddefnyddio'r Gymraeg wrth ddelio 芒 banciau.

"Fel rhan o'r adolygiad byddaf yn casglu tystiolaeth gan y banciau eu hunain ac arbenigwyr yn y maes yn ogystal."

Wedi iddi dderbyn a dehongli'r dystiolaeth, bydd y Comisiynydd yn dod i'w chasgliadau gan lunio cyfres o argymhellion er mwyn gwella profiad pobl yng Nghymru wrth ymdrin 芒 banciau drwy gyfrwng y Gymraeg.