麻豆官网首页入口

Cerdded yn dda i'r corff a'r economi

  • Cyhoeddwyd
Llwybr Arfordir Cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi pwysleisio'r buddion iechyd o weithgaredd corfforol wrth annog pobl i fynd i gerdded ar Lwybr Arfordir Cymru dros gyfnod yr 糯yl.

Mewn adroddiad a gyhoeddwyd gan CNC, maen nhw'n dweud bod mwy na 23,000 o gerddwyr yn defnyddio'r llwybr bob wythnos ar gyfartaledd, ac y gallai hynny fod gyfystyr ag achub saith o fywydau bob blwyddyn.

Wrth geisio rhoi gwerth ariannol ar hyn fe ddywed CNC bod buddion iechyd yn sgil gweithgarwch corfforol yn werth 拢18.3 miliwn y flwyddyn.

Fel rhan o'r adroddiad, fe gynhaliwyd arolwg barn o gerddwyr, ac fe wnaeth 19% o'r rhai wnaeth ymateb ddweud na fydden nhw'n mynd allan i gerdded o gwbl oni bai am fodolaeth Llwybr Arfordir Cymru.

Technoleg newydd

Dywedodd Sue Rice, Rheolwr Prosiect Llwybr Arfordir Cymru gyda CNC:

"Mae gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored, fel cerdded, yn dda i'n hiechyd mewn sawl ffordd, ond yn hanesyddol mae hi wedi bod yn anodd profi beth yw'r buddion yma.

"Yn yr achos yma, rydym wedi cyfrifo'r bywydau sydd wedi'u hachub a'u hymestyn yn sgil gweithgarwch corfforol er mwyn mesur y gwerth i iechyd pobl."

Defnyddiodd yr adroddiad Offeryn Asesu Economeg Iechyd (HEAT) ar gyfer cerdded i gyfrifo'r gwerth economaidd sy'n gysylltiedig 芒 buddion iechyd prosiect arbennig.

Yn draddodiadol, caiff HEAT ei ddefnyddio gan gynllunwyr cludiant i fesur gwerth economaidd y buddion iechyd a ddaw yn sgil cerdded a beicio i gymudwyr, ond mae wedi cael ei addasu i fesur am y tro cyntaf beth yw effeithiau iechyd cerdded wrth hamddena.

Ychwanegodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant:

"Mae'r adroddiad yma'n dangos y gall Llwybr Arfordir Cymru wneud gwahaniaeth gwirioneddol, gan fod o fudd i bawb a fydd yn cerdded ar ei hyd.

"Yn awr, mae 'na reswm gwell fyth dros fwynhau cerdded ar hyd rhan o'r llwybr 870 milltir dros gyfnod y Nadolig."

Cafodd Llwybr Arfordir Cymru ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru ar y cyd 芒 Chyfoeth Naturiol Cymru, un ar bymtheg o awdurdodau lleol a dau o awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol