麻豆官网首页入口

Jac yr Undeb ar drwydded: 'Angen ailystyried'

  • Cyhoeddwyd
Trwydded NewyddFfynhonnell y llun, DVLA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe fydd y trwyddedau newydd yn cynnwys Jac yr Undeb

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon, Hywel Williams, wedi dweud ei fod yn gobeithio y bydd "protestio a chreu st诺r" yn arwain at ailystyried penderfyniad y Weinyddiaeth Drafnidiaeth i gynnwys baner Jac yr Undeb ar drwyddedau gyrru newydd.

Hyd yn hyn mae dros 1,200 o enwau wedi arwyddo deiseb ar-lein yn erbyn y newid sy' wedi achosi ymateb cryf ar wefannau cymdeithasol.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd trwyddedau newydd i yrwyr yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn cynnwys Jac yr Undeb.

Dywedodd y DVLA: "Rydym yn credu fod y rhan fwyaf o yrwyr ym Mhrydain yn cefnogi arddangos baner yr undeb ar drwyddedau gyrru.

'Hynod ddrud'

"Fe fyddai darparu dewis o symbolau cenedlaethol yn hynod ddrud ac yn gymhleth ac yn golygu nifer fawr o wahanol drwyddedau gyrru.

"Gallai hyn arwain at anawsterau gyrru yn Ewrop os nad yw asiantaethau gweithredu'r gyfraith yn cydnabod y fersiynau amrywiol."

Ar raglen Taro'r Post dywedodd Mr Williams fod y cynllun yn "don arall o Brydeindod ffals."

"Fe welsom ni'r un peth yn ystod Cyfrifiad 2001," meddai, "lle nad oedd modd i unigolion dicio bocs i ddweud eu bod yn Gymry ond ar 么l cryn st诺r a phrotestio, fe welson ni fod y broblem wedi mynd erbyn Cyfrifiad 2011."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Hywel Williams AS yn gobeithio bydd "protestio" a "chreu st诺r" yn arwain at ail-edrych ar y penderfyniad.

Mae'r Gweinidog Trafnidiaeth Claire Perry wedi dweud: "Mae pobl y wlad hon yn ymfalch茂o yn ein baner genedlaethol ac rwy'n falch iawn y bydd yn cael ei dangos ar drwyddedau gyrru newydd.

"Mae dathlu Prydain yn cryfhau ein hymdeimlad o hunaniaeth genedlaethol a'n hundod.

"Mi fyddaf yn falch i gario fy nhrwydded newydd ac yn gobeithio y bydd pobl eraill yn teimlo'r un peth."

Dywedodd Mr Williams: "Mae'r gweinidog yn glir iawn ei bod yn gwthio'r newid hwn i gynnal yr hunaniaeth Brydeinig yng Nghymru a'r Alban.

'Mantais wleidyddol'

"Yn arwyddocaol, nid yw hyn yn digwydd yng Ngogledd Iwerddon lle nad oes gan bleidiau Llundain unrhyw bresenoldeb.

"Mae hyn yn amlwg yn ymgais i sicrhau mantais wleidyddol i'r pleidiau unoliaethol cyn yr etholiad fis Mai nesaf ac mae defnyddio pwerau llywodraeth i ddibenion plaid wleidyddol yn anghywir ac annerbyniol.

"Pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ei 么l wrth ei ddesg mi fyddaf yn gorchymyn bod y cynnig hwn yn cael ei ddileu."

Nid oedd neb o Swyddfa Cymru ar gael i wneud sylw.