麻豆官网首页入口

Elusen yn rhybuddio: Mwy o bobl yn dod yn ddigartref

  • Cyhoeddwyd
digartrefedd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae prif weithredwr Cais, Clive Wolfendale wedi disgrifio'r mater fel un sydd a "thuedd gynyddol".

Mae elusen wedi rhybuddio y bydd mwy o bobl yn dod yn ddigartref yng Nghymru oherwydd diffyg amrywiaeth yn y mathau o gefnogaeth sydd ar gael.

Mae elusen Cais, yng ngogledd Cymru yn beio'r diffyg dewisiadau sydd ar gael i unigolion oherwydd newidiadau yn y darpariaeth fydd ar gael.

Disgrifiodd prif weithredwr Cais, Clive Wolfendale y mater fel un sydd a "thuedd gynyddol".

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda chymdeithasau tai, cynghorau ac elusennau i gefnogi pobl.

"Rydym yn gweld pobl yn gwersylla mewn gerddi a choedwigoedd heb unman i fynd," meddai Mr Wolfendale.

"Rwy'n credu fod unigolion yn cael eu hunain i sefyllfaoedd lle mae derbyn cefnogaeth gan sefydliadau ac awdurdodau o bob math yn angenrheidiol. Ond mae'r opsiynau sydd ar gael iddynt yn dod yn fwy ac yn fwy cyfyngedi." meddai.

'Addawol'

Dywedodd llefarydd ar ran yr elusen ddigartrefedd, Shelter Cymru: "Rydym yn sicr yn cytuno bod pethau'n mynd yn anoddach i lawer o bobl oherwydd amryw o resymau sy'n gysylltiedig 芒 diwygio'r wladwriaeth lles, costau byw ac incwm isel.

"Un duedd sy'n peri pryder i ni yw'r cynnydd mewn faint o bobl gafodd eu taflu allan o dai cymdeithasol yn 2014, mae'r ffigyrau yn adlewyrchu pryderon Cais fod pobl yn rhedeg allan o opsiynau."

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd 拢11m yn cael ei wario er mwyn ceisio mynd i'r afael 芒 digartrefedd yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth fod y ffigurau diweddaraf yn dangos gostyngiad o 8% mewn digartrefedd rhwng mis Ebrill a mis Mehefin yn 2014.

Yn 么l y llefarydd, mae hyn yn "addawol iawn".

"Ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn dod i rym, fe fydd y ddeddf yn rhoi mwy o bwyslais ar atal pobl rhag colli eu cartrefi, a darparu gwasanaethau gwell i'r rheiny sy'n ddigartref," ychwanegodd.