麻豆官网首页入口

Ateb y Galw: John Ogwen

  • Cyhoeddwyd
John OgwenFfynhonnell y llun, S4C

Yr wythnos yma yr actor John Ogwen sydd yn Ateb y Galw gan Cymru Fyw, wedi iddo gael ei .

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Cael chwip d卯n gan Nain pan o'n i tua 4 oed. Ges i ngeni yn 1944 ac felly roedd yna ifaciw卯 draw yn y t欧. Wnes i roi slap iddi am ddwyn p锚l, a mi ges i chwip d卯n gan Nain wedyn am wneud y ffasiwn beth.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?

Mai Lloyd, hogan blond ddel iawn. Dim ond yn yr ysgol fach dwi'n ei chofio hi, mi roedd hi 'di symud i ffwrdd erbyn i ni fynd i'r ysgol fawr. Dwi'n cofio prynu rhuban iddi roi yn ei gwallt.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Daeth yna deulu i aros efo ni, ac i wneud lle nes i orfod mynd i aros efo ffrind yn y pentre'. Roedden ni wedi bod yn y caeau drwy dydd ac wedi yfed llwyth o laeth enwyn. Wel, rhywbryd y noson yna fe 'lychais y gwely gan socian ni'n dau - mae o'n dal i godi embaras mawr hyd heddiw!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Yn gyhoeddus ma'n siwr oedd ar 么l i mi annerch Eisteddfod yr Urdd ym Methesda a'r dorf yn codi ar ei thraed i fy llongyfarch. Ond dwi'n crio'n aml adeg ffilmiau neu ddram芒u emosiynol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Hogia Pesda: John yn rhannu llaeth enwyn a 'chydig o straeon gydag un o'i arwyr Caradog Pritchard

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Mae gen i lawer! Ond mae'n si诺r fod cnoi fy ngwinedd yn un o'r rhai dwi'n eu gwneud amlaf.

Dy hoff ddinas yn y byd?

Rhufain. Ma' hi'n ddinas fach anghygoel ac mae'n bosib cerdded i bob man yno.

Dwi'n cofio mynd i Rufain efo criw C么r y Penrhyn adeg o'dd Cymru'n chwarae rygbi yno. Nath Dewi, un o'r hogia ar y daith fynd fewn i dafarn yno a thrio cael diod gan foi o'dd yn gweithio yno, ond mi roedd o'n siarad gyda'r drych, gyda'r barman yn sefyll tu 么l iddo. Dwi ddim yn cofio chwerthin gymaint erioed.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Unrhyw noson lle mae Everton yn ennill - dim llawer o bwys yn erbyn pwy, ond mae ennill yn erbyn Lerpwl yn eitha' arbennig.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae hi'n 20 mlynedd 'leni ers i Everton ennill cwpan (sori dy atgoffa di John!)

Oes gen ti dat诺?

Nagoes, ma' nhw'n edrych yn hyll ofnadwy.

Beth yw dy hoff lyfr?

Un Nos Ola Leuad. Un o'r llyfrau mwyaf bendigedig a 'sgrifennwyd erioed. Roeddwn yn nabod yr awdur, Caradog Prichard, ac wrth gwrs mae wedi'i leoli yn fy ardal i.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Dwi'm yn rhywun sy'n rhoi pwysigrwydd mawr ar ddillad, ond mae esgidiau golff yn wych am eu bod yn golygu mod i'n gallu mynd am rownd.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welais di?

Toy Story 3 dros Dolig, mi roedd o'n wych.

Dy hoff albwm?

The Best of Maria Callas, llais anghygoel ganddi!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llais Maria Callas yn cynhesu stiwdio oer y 麻豆官网首页入口

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?

Prif gwrs - cig oen Cymreig.

Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?

Tecstio, sgenai'm mynadd ffonio.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Richard Branson, a chymryd ei ynys o heb iddo fo wybod.

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Owain Arthur

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"I ddeud y gwir wrthoch chi sa'n well gen i fod yn fy mal诺n yn hedfan dros Pesda"