麻豆官网首页入口

Cymorth i ddisgyblion disgleiriaf Cymru

  • Cyhoeddwyd
graddio

Fore Iau bydd llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun i helpu disgyblion mwyaf galluog Cymru i fynd i'r prifysgolion gorau.

Mi fydd sawl canolfan arbenigol yn agor i roi mwy o gefnogaeth a mentora.

Yn 么l ymchwil gan 麻豆官网首页入口 Cymru mae'r nifer o Gymry lwyddodd i fynd i brifysgolion Caergrawnt a Rhydychen ar eu lefel isaf ers 2008.

Mi aeth 144 o ddisgyblion Cymru i Gaergrawnt a Rhydychen i astudio yn 2008. Erbyn y llynedd roedd y nifer wedi gostwng i 105.

Gofynnodd llywodraeth Cymru i'r cyn ysgrifennydd gwladol Paul Murphy i gymryd golwg ar sut oedd modd gwella'r sefyllfa.

Rhan o'i ateb oedd sefydlu'r canolfannau arbenigol.

Mi fydd yna dair i ddechrau - un yn y gogledd ddwyrain, un yn Abertawe ac un yn y cymoedd - ac mi fyddan nhw'n cael 拢500,000 yr un.

Mi fydd naw canolfan arall yn agor yn ystod y flwyddyn nesaf.

Ym mhob un, bydd tua 250 o lefydd, lle bydd disgyblion yn derbyn cyngor, canllawiau a chefnogaeth.

Dadansoddiad Gohebydd Addysg 麻豆官网首页入口 Cymru, Arwyn Jones

Y Fagloriaeth Gymreig yw canolbwynt y rhan helaeth o'r trafod yngl欧n 芒'r gostyngiad yn nifer y disgyblion o Gymru sy'n mynd i'r prifysgolion gorau.

Fe ddywedodd llysgennad Rhydychen a Chaergrawnt yn Llywodraeth Cymru, Paul Murphy, bod y Fagloriaeth "yn codi'n gyson ymysg pryderon athrawon, gan nad ydi o'n cyrraedd gofynion disgyblion abl a thalentog, ac felly'n cymryd lle yn eu hamserlen, allai gael ei ddefnyddio i wneud gweithgareddau eraill".

Fe fydd 'na ragor o newidiadau i'r Fagloriaeth ym mis Medi eleni; fe fydd yn fwy heriol, yn cael ei asesu fesul gradd ac yn debycach i gyrsiau academaidd.

Mae'r newidiadau wedi cael eu croesawu, gan fwyaf, ond mae 'na rai'n dweud y dylai fod y newid wedi digwydd lawer ynghynt.

Rheswm arall am y gostyngiad, yn 么l Paul Murphy, yw'r dirywiad yn nifer y graddau uchaf lefel A rhwng 2008 a 2012.

Yn syml, os nad yw'r disgyblion yn ennill y graddau, does dim ffordd y cawn nhw eu derbyn.

Mae'r sefyllfa honno yn dechrau gwella. Roedd canlyniadau A ac A* mewn lefel A yn well yn 2013, er nad oedden nhw cystal 芒 chanlyniadau 2008.

Felly, tra bo siom am gyn lleied o ddisgyblion o Gymru sy'n cael eu derbyn i Rydychen a Chaergrawnt ar hyn o bryd, mae'n debyg bod newid ar droed, ac y gallai gwelliannau fod ar y gorwel.