Sir Benfro: Ysgol uwchradd Gymraeg Newydd

Mi allai Sir Benfro gael ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg newydd, ac mi allai dwy o ysgolion uwchradd y sir gau o dan gynlluniau sydd newydd gael eu cyhoeddi gan Gyngor Sir Penfro.

Fe fydd cynghorwyr yn pleidleisio wythnos nesaf ar argymhellion i gau ysgolion Dewi Sant yn Nhyddewi a Tasker Milward yn Hwlffordd, ac i agor ysgol cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion rhwng tair ac 16 oed yn Hwlffordd.

Ar hyn o bryd, Ysgol y Preseli yng Nghrymych yw'r unig ysgol gyfun cyfrwng Cymraeg yn y Sir.

Fe fydd cyfarfod arbennig o Gyngor Sir Penfro yn cael ei gynnal i drafod adolygiad o'r ddarpariaeth addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg yn y Sir yn Neuadd y Sir ar ddydd Iau, 29 Ionawr.

Fe lansiwyd yr adolygiad ddechrau'r flwyddyn ddiwethaf gydag ymgynghoriadau cychwynnol ar ddyfodol addysg uwchradd yn ardal Hwlffordd a dyfodol addysg yn ardal Tyddewi

Hefyd, fe lansiwyd ymgynghoriad rhagarweiniol ar addysg cyfrwng Cymraeg yn Sir Benfro yn yr hydref.

Yn dilyn nifer o gyfarfodydd cyhoeddus ledled y sir, fe gynigiodd pob ymgynghoriad nifer o opsiynau gwahanol.

Y dewis gorau

Yn dilyn proses o werthuso trylwyr o'r ymatebion i'r ymgynghoriadau, mae dewis wedi cael ei argymell gan y Cyfarwyddwr Plant ac Ysgolion, Kate Evan-Hughes.

Y dewis sy'n cael ei ffafrio yw:

"Cau Ysgol Syr Thomas Picton ac Ysgol Tasker Milward a sefydlu ysgol newydd cyfrwng Saesneg 11-16 gyda darpariaeth AAA ychwanegol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu cymhleth, ar safle presennol Syr Thomas Picton. Ac i'r rhai dros 16 i gael eu haddysg mewn canolfan chweched dosbarth integredig newydd.

"Cau ysgolion Ysgol Bro Gwaun ac Ysgol Dewi Sant a sefydlu ysgol newydd cyfrwng Saesneg 11-16 oed (gyda defnydd sylweddol o'r Gymraeg) Ysgol uwchradd gyda darpariaeth AAA ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu cymhleth ar safle presennol Ysgol Bro Gwaun. A chynnig darpariaeth 脭l-16 mewn canolfan chweched dosbarth integredig newydd.

"Cau Ysgol Gymraeg Glan Cleddau a sefydlu ysgol 3-16 oed, cyfrwng Cymraeg/dwyieithog newydd ar safle presennol Ysgol Tasker Milward ac addysg 么l-16 i gael ei ddarparu yn Ysgol y Preseli.

Bydd yr opsiwn a ffafrir yn cael ei gyflwyno mewn adroddiad manwl i'r Cynghorwyr.