麻豆官网首页入口

'Heriau sylweddol' i leihau bwlch cyrhaeddiad ysgolion

  • Cyhoeddwyd
DosbarthFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae Llywodraeth Cymru'n wynebu "heriau sylweddol" wrth geisio cau'r bwlch o ran cyrhaeddiad addysgol plant o deuluoedd tlotach yng Nghymru.

Dyna gasgliad pwyllgor o Aelodau Cynulliad sy'n rhybuddio nad yw'r un o nifer o fesurau sydd wedi'u cyflwyno dros y blynyddoedd diwethaf wedi profi'n "llwyddiant sylweddol".

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad wedi amlinellu 12 o argymhellion, gan gynnwys:

  • Ymchwilio i'r rhesymau pam fod y Cyfnod Sylfaen - cwricwlwm Cymru ar gyfer plant rhwng 3 a 7 oed - "heb gael effaith ar gyrhaeddiad plant o deuluoedd incwm isel".

  • Adolygu a ydi cronfa benodol 'Grant Amddifadedd Disgyblion' yn cael ei ddefnyddio'n gywir i helpu plant o gefndiroedd tlotach yn hytrach nac unrhyw ddisgybl sy'n tangyflawni.

  • Mynd i'r afael 芒 "chostau cudd" sy'n wynebu teuluoedd incwm isel e.e prynu cynhwysion ar gyfer gwersi coginio.

  • Sicrhau fod gan bob taith ysgol bwrpas addysgiadol fel nad yw'r un disgybl yn methu 芒 mynychu oherwydd y gost.

  • Asesu llwyddiant prosiectau sy'n annog rhieni i ddangos diddordeb a bod yn rhan o addysg eu plant. Clywodd y pwyllgor fod enghreifftiau o arfer da yn "anghyson iawn" ar draws Cymru.

Yn ystod eu hymchwiliad, fe glywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Addysg, y corff arolygu ysgolion Estyn, elusennau Sefydliad Bevan ac Achub y Plant a nifer o ysgolion cynradd ac uwchradd ar draws Cymru.

Dywedodd Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

"Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu heriau sylweddol o ran cau'r bwlch rhwng cyrhaeddiad plant o deuluoedd incwm isel a phlant eraill.

"Er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud yn y cyfnodau allweddol dros y blynyddoedd diwethaf, mae angen i ni gydnabod maint y newid sydd ei angen i ateb yr her."

Diolch i'r pwyllgor am eu gwaith wnaeth llefarydd ar ran y Llywodraeth gan ddweud y byddan nhw'n ymateb i'r argymhellion yn y man.