麻豆官网首页入口

Cyhoeddi cynllun dyfodol rheilffyrdd yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Tren

Mae Network Rail wedi cyhoeddi cynlluniau moderneiddio oherwydd y twf disgwyliedig mewn siwrneiau teithwyr a chludiant yng Nghymru.

Ymysg yr opsiynau yn nrafft Arolwg Llwybrau Cymru mae ailddatblygu gorsaf Caerdydd Canolog a chynlluniau i foderneiddio'r rheilffordd yng ngogledd Cymru.

Mae'r arolwg yn trafod opsiynau Network Rail i wella'r rheilffyrdd yng Nghymru dros y 30 mlynedd nesaf ac mae wedi cael ei ddatblygu gyda Llywodraeth Cymru, yr Adran Drafnidiaeth a'r cwmn茂au trenau.

Dywedodd Tim James, Pennaeth Strategaeth a Chynllunio Network Rail Cymru: "Mae ein rheilffordd yn cludo bron i 50% yn fwy o deithwyr nag yr oedden ni 10 mlynedd yn 么l, ac mae disgwyl i hynny gynyddu'n sylweddol yn y blynyddoedd nesaf.

"Fe fydd y gwaith sydd wedi ei drefnu ar gyfer y pum mlynedd nesaf yn gwneud gwahaniaeth enfawr, yn cynnwys trydaneiddio rhannau o'r rheilffordd a gwella arwyddion i wella dibynadwyedd.

"Mae mwy i'w wneud oherwydd y galw yn y dyfodol."

Opsiynau

Mae'r opsiynau ar gyfer buddsoddiadau'r cyfnod 2019 i 2024, yn cynnwys:

  • Ailddatblygu gorsaf Caerdydd Canolog;

  • Moderneiddio'r rheilffordd o Crewe i Gaergybi;

  • Lle ar gyfer mwy o deithwyr i'r Cymoedd;

  • Datblygiad pellach ar gyfer cynnig Metro Caerdydd;

  • Gwella cyflymder trenau rhwng Afon Hafren a Chaerdydd;

  • Cau croesfannau rheilffordd yng ngorllewin Cymru;

  • Mwy o wasanaethau ar reilfordd Calon Cymru;

  • Gorsaf newydd Shotton, Sir y Fflint.

Mae'r arolwg yn trafod y strategaeth hir-dymor hyd at 2043, yn adeiladu ar yr hyn sydd wedi ei awgrymu erbyn 2024.

Dogfen ymgynghori yw'r drafft a dylai'r cyhoedd roi eu barn cyn i'r cyfnod ymgynghori orffen ar 9 Mehefin.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y twf sy'n cael ei ragweld o ran teithwyr o Gaerdydd i Lundain

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y twf sy'n cael ei ragweld o ran teithwyr o arfordir gogledd Cymru i Lundain

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y twf sy'n cael ei ragweld o ran teithwyr o Wrecsam i Lerpwl

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y twf sy'n cael ei ragweld o ran y nifer fydd yn teithio i ardal Caerdydd i weithio