麻豆官网首页入口

Aelodau Cynulliad yn pleidleisio yn erbyn gwahardd taro plant

  • Cyhoeddwyd
taro plant

Mae Aelodau Cynulliad wedi pleidleisio yn erbyn cynnig i wahardd taro plant yng Nghymru.

Roedd Julie Morgan AC wedi cynnig newid i'r mesur Trais yn Erbyn Merched er mwyn dod 芒 diwedd i'r defnydd o "roi cerydd" fel amddiffyniad cyfreithiol am daro plant.

Fe bleidleisiodd 36 yn erbyn cynnig Ms Morgan ac 16 o blaid.

Roedd Llywodraeth Cymru yn erbyn y mesur ac fe wrthodwyd galwadau am bleidlais rydd ar y mater.

Fodd bynnag, fe bleidleisiodd Ms Morgan ac AC Llafur arall, Christine Chapman, yn erbyn eu plaid.