麻豆官网首页入口

Ateb y Galw: Garry Owen

  • Cyhoeddwyd
Garry

Yr wythnos yma cyflwynydd Taro'r Post Garry Owen sy'n Ateb y Galw wedi iddo gael ei enwebu gan Si芒n Thomas.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Mynd i'r cwb ffowls ar ben yr ardd gyda dad i n么l wyau. Wrth fy modd!!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?

Kate Bush!!!! Ffan enfawr o 'Wuthering Heights'.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae nodau uchel Kate Bush yn tarod deuddeg 'da Garry

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Cael st诺r gan y prifathro yn ysgol uwchradd am fod fy ngwallt i yn rhy hir!!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Deigryn bach o hapusrwydd ar ddiwrnod priodas fy merch.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Na!! Er efallai y byddai fy ngwraig yn dweud yn wahanol!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Garry yn ei elfen yn darlledu'n fyw ar Taro'r Post

Dy hoff ddinas yn y byd?

St Petersburg... Hanes, hanes a hanes.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Ble fi yn dechre?!

Oes gen ti dat诺?

Na. Dim yn bod arnyn nhw... ond dim i fi.

Beth yw dy hoff lyfr?

'1984'. Gweledigaeth George Orwell wrth edrych i'r dyfodol. Mae 1984 wedi mynd a dod wrth gwrs, ond y llyfr mor amserol ag erioed.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Garry yn edrych i'r dyfodol? Mae'r penwisgoedd yna yn boblogaidd iawn yn yr Hendy!

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Dim byd yn y wardrob sy' mor bwysig 芒 hynny i fi!

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

'Pride'. Ffilm wych yn 'neud i chi chwerthin a chrio, ac yn atgoffa fi o gyfnod cyffrous yn fy mywyd. Streic y glowyr oedd y stori fawr gyntaf i fi ddilyn fel newyddiadurwr ifanc.

Dy hoff albwm?

'Court and Spark' gan Joni Mitchell. Wedi gwrando ar hon droeon. Cymysgedd o ganu gwerin, pop a jazz.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?

Prif gwrs. Unrhywbeth llysieuol.

Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?

Ffonio wrth gwrs. Wrth fy modd yn siarad 芒 phobl ar y ff么n yn enwedig rhwng 1-2 ar 麻豆官网首页入口 Radio Cymru ar Taro'r Post. Cofiwch y rhif 03703500500.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Ffoniwch 'nawr!"

Pe taset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Hiram Bingham ar y diwrnod y gwnaeth e ddarganfod Machu Pichu ar 24 Gorffennaf 1911.

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Delyth Mai Nicholas.

Ymunwch 芒 Garry ar Taro'r Post, 1300, Dydd Llun-Dydd Gwener, 麻豆官网首页入口 Radio Cymru