麻豆官网首页入口

Bilidowcar yn dathlu'r 40

  • Cyhoeddwyd
Emyr Wyn, Naomi Jones a Hywel Gwynfryn, gydag Amanda Greenfield, enillodd gystadleuaeth i ddylunio cerdyn Nadolig Bilidowcar
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Emyr Wyn, Naomi Jones a Hywel Gwynfryn, gydag Amanda Greenfield, a enillodd gystadleuaeth i ddylunio cerdyn Nadolig Bilidowcar

Yn 1975 cafodd cyfres newydd ei darlledu ar 麻豆官网首页入口 Cymru oedd yn rhoi cyfle i blant ddysgu sut i bobi bisgedi Santes Dwynwen, darganfod beth oedd yn sustem garthffosiaeth Caerdydd a gweld golygfeydd o bellteroedd Hong Kong ac America.

Cafodd Bilidowcar ei greu fel ymateb 麻豆官网首页入口 Cymru i Blue Peter. Cyn i'r gyfres ddod i ben yn 1988 cafodd y rhaglenni eu cyflwyno gan nifer o wynebau cyfarwydd ac roedd hi'n feithrinfa i sawl darlledwr sy'n amlwg iawn erbyn heddiw.

Pam Bilidowcar?

Ond o ble ddaeth yr enw, Bilidowcar? Roedd Hywel Gwynfryn yna ar y cychwyn cyntaf:

"Mae'r aderyn bilidowcar yn un sy'n dowcio o dan y d诺r yn pysgota ac yn chwilota, a fel hynny oeddwn i'n gweld y rhaglen. Rhaglen oedd yn chwilota ac yn pysgota am eitemau amrywiol a diddorol."

Marged Esli oedd yn cyflwyno gyda Hywel ar y rhaglen gyntaf ond, fel gwelwch chi yn y lluniau, mae nifer o gyflwynwyr wedi mynd a dod dros y blynyddoedd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Emyr Davies (sydd nawr yn cynhyrchu Sgorio ar S4C), Liz Scourfield, ac Ynyr Williams

Tocyn teithio

Un o'r cyflwynwyr sydd 芒 llu o atgofion hapus am ei gyfnod yn cyflwyno yw Ynyr Williams, sydd bellach yn ddirprwy olygydd Radio Cymru.

Roedd e'n cyflwyno Bilidowcar rhwng 1982 a diwedd y gyfres yn 1988.

"Mae'r atgofion i gyd yn rhai hapus gyda gormod o uchafbwyntiau i restru," meddai. "Ond roedd y trip wnaethon ni i Wlad Thai a Hong Kong yn sefyll allan i mi fel uchafbwynt.

"Wedi'r cyfan, pan aethon ni i'r gwledydd yma n么l yn 1984, ychydig iawn o bobl oedd yn medru fforddio gwneud.

"Roedd prynu tocyn awyren yn costio beth sy'n cyfateb i filoedd o bunnau heddiw, a felly roedd hi'n fraint cael y cyfle i brofi'r gwledydd hyn a rhannu eu cyfrinachau."

Er gwaetha'r atgofion melys am ei deithiau, doedd Ynyr ddim yn rhy hoff o rai o'r cyfeillion y bu'n ffilmio gyda nhw yng Ngwlad Thai!

Meddai: "Roedd rhaid i mi ffilmio ynghanol 10,000 o nadroedd gwenwynig iawn yn ysbyty'r Groes Goch yn Bangkok.

"Mae gen i ofn dychrynllyd o nadroedd ac felly, 芒 dweud y lleia, roeddwn yn nerfus iawn o'r sefyllfa. Yn sydyn 'nath un o'r gweithwyr daflu king cobra i fy nghyfeiriad, ac wedi iddo lanio mi 'nath y neidr ddechrau codi a syllu i fyw fy llygaid!"

Yn ddiarwybod i Ynyr, roedd pob un neidr yn yr ysbyty wedi ei odro o'i wenwyn, ac felly yn gwbl ddiogel. Ond weithiau, does dim rhaid i'r cyflwynwyr wybod pob dim!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Hywel gyda'i griw ffilmio yn Cape Canaveral

Y canibaliaid a'r syrcas

Er bod yna sawl un, mae'n si诺r, yn eiddigeddus o gyflwynwyr Bilidowcar yn cael teithio'r byd mewn cyfnod pan oedd hynny'n llai cyffredin, nid gwyliau oedd y teithiau hyn. Roedd Hywel Gwynfryn wedi gweld y byd mewn ffyrdd gwahanol iawn:

"Mi dreuliais i wythnos yn byw gyda llwyth yr Iban ar Ynys Sarawak, oddi ar arfordir Indonesia.

"Roedd eu cyndeidiau yn ganibaliaid oedd hefyd yn helwyr pennau a wnaeth y criw a minnau dreulio wythnos yn cysgu ar y llawr mewn t欧 hir yng nghanol pentref y llwyth.

"Roeddwn yn codi am bump y bore pan oedden nhw'n codi, ac yn gweithio a bwyta fel un o'r llwyth.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Byddai'r byd darlledu Cymraeg wedi bod yn wahanol petai Hywel Gwynfryn (chwith) wedi ymuno'n llawn amser gyda'r syrcas!

"Wnes i hefyd dreulio wythnos gyda syrcas Barnum & Bailey yn America yn byw fel un o'r perfformwyr ac yn dysgu sgiliau syrcas.

"Yn wir ar ddiwedd y cyfnod wnaeth rheolwr y syrcas siglo llaw a dweud fod croeso i fi ddod yn 么l ac ymuno gyda nhw'n llawn amser unrhyw bryd oeddwn i eisiau!"

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Emyr Davies a'r gwyddonydd Iolo ap Gwynn gydag enillwyr cyfrifiadur mwyaf arloesol y cyfnod! Ydych chi'n gwybod pwy arall sydd yn y llun?

Ysgol brofiad

Roedd Bilidowcar yn ysgol i nifer o gyflwynwyr newydd y 麻豆官网首页入口 ac S4C. Un a ddysgodd lawer wrth gyflwyno'r rhaglen oedd Liz Scourfield, sydd bellach yn actores ac yn llais cyfarwydd rhwng rhaglenni S4C.

"Wnes i ddechrau cyflwyno Bilidowcar ar 么l i Angharad Mair fynd i gyflwyno'r newyddion. Roedd Emyr (Davies) ac Ynyr wedi bod yna am rai blynydde cyn i mi gyrraedd felly roeddwn i'n teimlo ychydig fel disgybl newydd mewn ysgol newydd.

"Ac yn wir bedydd t芒n oedd Bilidowcar, oherwydd yn ogystal 芒 sgriptio, roedd y cyflwynwyr yn gorfod meddwl am syniadau am eitemau ac yn golygu eu ffilmiau eu hunain hefyd. Roedd fy nwy flynedd ar Bilidowcar yn waith caled ond yn lot fawr o hwyl.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Emyr Davies, Dewi Williams ac Angharad Mair: Cyflwynwyr y rhaglen ar S4C yn 1982

Ble mae'r blwch?

Cofiwch, mae yna ambell i gwestiwn yn codi o rai o brosiectau'r gyfres - un yn arbennig. Ynyr Williams sy'n esbonio:

"Tua 1984, wnaethon ni greu blwch amser yn llawn recordiau o'r cyfnod, papurau newydd, cylchgronau a deunydd wedi ei greu gan ddau o'n gwylwyr. Mi 'naethon ni gladdu'r blwch yn seiliau'r llyfrgell newydd yng Nghaerdydd gyda chymorth Doctor Who ar y pryd, Colin Baker.

"Ond mae safle'r llyfrgell r诺an o dan y ganolfan siopa newydd yng Nghaerdydd, a chlywais i fyth a ddaeth yr adeiladwyr o hyd i'r blwch!"

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dau o wylwyr 'Bilidowcar' yn barod i gladdu'r blwch amser gydag Ynyr Williams, Emyr Davies a Doctor Who!

Un peth oedd yn arloesol am y rhaglen oedd yr amrywiaeth o eitemau roedd y rhaglen yn delio 芒 nhw. Dyma Liz Scourfiled eto:

"Yn ogystal ag ymweld 芒 bedd Hedd Wyn mewn penodau arbennig am y Rhyfel Byd Cyntaf, fe wnes i grwydro carthffosydd Caerdydd a fe wnes i gwrs criw caban British Airways.

"Ac 'y chi'n cofio'r holl bethau artistig roedd y cyflwynwyr yn creu? Wel ni oedd yn gorfod eu paratoi adre a'u cario'n ofalus mewn i'r stiwdio."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Emyr Davies gyda dau wyliwr enillodd gystadleuaeth i ddylunio bws Traws Cambria Bilidowcar. Ydych chi'n gwybod pwy ydyn nhw?

'Fel plentyn eto'

Gyda Bilidowcar bellach yn hen hanes ers blynyddoedd oes lle i raglen o'r fath yn yr oes hon? Mae'r byd wedi mynd yn llai, pobl yn teithio'n bellach ac yn amlach a'r we yn cynnig gwybodaeth am unrhyw bwnc dan haul. Mae Hywel Gwynfryn yn bendant ei farn:

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ydi Liz Scourfield yn chwilio am y blwch amser yng ngharthffosydd Caerdydd?

"Mae wastad lle i raglen fel Bilidowcar. Roedden ni'n profi'r holl ddigwyddiadau ac yn rhoi ein stamp personol ar bob eitem. Fues i'n reidio beic Peni Fardding drwy draffic Llundain.

"Mi dreuliais i wythnos ar fferm yn Awstralia, fferm oedd mor fawr, roedd y ffermwyr yn gorfod defnyddio awyren i fynd o un pen i'r llall.

"Mi 'nes i goginio pryd o fwyd yn Ffiji gan ddal crwban y m么r, lapio ei gig mewn deilen banana a ffrwythau, a'i goginio mewn twll yn y ddaear gyda cherrig oedd wedi'u cynhesu o flaen llaw.

"Nid yr olygfa ohona' i yn bwyta'r pryd ar y traeth gyda'r brodorion lleol oedd yn gwneud yr eitem yn un arbennig, ond y wefr yn fy llais a'm wyneb wrth i mi ddilyn pob cam. Fel plentyn eto.

"Does dim un cyfrifiadur yn mynd i roi hynna i chi!"