麻豆官网首页入口

Beirniadu Canolfan Gymraeg i Oedolion

  • Cyhoeddwyd
CymraegFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae cyfarwyddwyr canolfan iaith yn y gogledd wedi ysgrifennu at weinidog y llywodraeth yn datgan eu "ddiffyg ymddiriedaeth lwyr" yn arweinyddiaeth Canolfan Cymraeg i Oedolion.

Ysgrifennodd cyfarwyddwyr Canolfan Iaith Popeth Cymraeg yn Nyffryn Clwyd a Chonwy at Huw Lewis, Gweinidog Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, yn beirniadu arweinyddiaeth Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor.

Dywed y brifysgol ei bod yn siomedig gyda'r feirniadaeth negyddol o "ganolfan iaith lwyddiannus".

Mewn ymateb i'r llythyr, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Gallwn gadarnhau ein bod wedi cael llythyr oddi wrth Popeth Cymraeg. Fodd bynnag, ni fyddai'n briodol i ni gynnig sylwadau gan fod hyn yn fater i'r sefydliad dan sylw".

Mae cyfarwyddwyr Canolfan Iaith Popeth Cymraeg yn Nyffryn Clwyd a Chonwy yn galw am ymchwiliad i ymddygiad yr arweinyddiaeth dros yr wyth mlynedd diwethaf ers sefydlu'r ganolfan.

Llythyr

Mae eu llythyr yn pwysleisio mai arweinyddiaeth y ganolfan sydd dan y lach, ac nad ydyn nhw'n lleisio unrhyw feirniadaeth o weddill staff y ganolfan na staff dysgu Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Bangor.

Dywedodd Ioan Talfryn, Prif Weithredwr Popeth Cymraeg: "Mae'r ffaith ein bod ni fel corff yn teimlo bod rhaid i ni gymryd y cam anarferol hwn o ysgrifennu at Huw Lewis a galw am ymchwiliad i ymddygiad arweinyddiaeth Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru yn arwydd clir bod problemau dwys iawn yn bodoli yma'n y gogledd.

"Mae'n bwysig pwysleisio hefyd nad cwyn am un agwedd neu ddigwyddiad penodol yn unig yw hyn ond yn hytrach ddatganiad diamwys o ddiffyg ymddiriedaeth lwyr yn arweinyddiaeth y ganolfan a hynny gan gorff sydd 芒 hanes hir a llwyddiannus o wasanaethu dysgwyr Cymraeg yn y rhan hon o Gymru.

"Mae swyddogion Llywodraeth Cymru eisoes yn ymwybodol o'r sefyllfa anhapus yma'n y gogledd fel ag y mae'r aelodau cynulliad a dderbyniodd gopi o'r llythyr."

Ymateb y brifysgol

Mewn datganiad yn ymateb i sylwadau'r cyfarwyddwyr, dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Bangor: "Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru wedi bod yn llwyddiannus iawn dros gyfnod o wyth mlynedd.

"Mae'n siomedig dros ben fod dau unigolyn wedi ymateb mor negyddol, gan wneud cyhuddiadau difrifol yn erbyn aelodau o staff sydd wedi llwyddo ac arloesi cymaint dros y blynyddoedd. Yn yr arolwg diweddaraf gan Estyn rhoddwyd dyfarniad "rhagorol" i'r Ganolfan, ac mae arolygon ymysg dysgwyr yn dangos lefel uchel o foddhad."