麻豆官网首页入口

Trafod dyfodol Neuadd Pantycelyn

  • Cyhoeddwyd
Pantycelyn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd sloganau eu gosod o amgylch y neuadd ddydd Iau

Bydd Pwyllgor Cyllid a Strategaeth Prifysgol Aberystwyth yn cyfarfod ddydd Gwener i drafod dyfodol Neuadd Pantycelyn.

Dan sylw fydd cynnwys adroddiad gan weithgor sydd wedi bod yn ystyried dyfodol y neuadd breswyl ar gyfer myfyrwyr Cymraeg eu hiaith.

Ddydd Iau fe wnaeth Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) fynegi pryder mai un o'r opsiynau yw cau'r neuadd o fis Medi er mwyn ei adnewyddu, ond heb amserlen ar gyfer cwblhau'r gwaith .

Gallai hynny olygu na fyddai'r neuadd - yr unig neuadd breswyl ar gyfer myfyrwyr Cymraeg yn Aberystwyth. - ar gael fel llety ar gyfer y flwyddyn academaidd nesa.

Yn Ebrill 2014 yn dilyn y protestiadau gan fyfyrwyr , fe benderfynodd y brifysgol i ddatblygu cynllun busnes er mwyn datblygu Neuadd Pantycelyn fel Canolfan Gymraeg a Diwylliant - gan gynnwys parhad y safle fel llety arlwyo ar gyfer myfyrwyr.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 2014 bu nifer o fyfyrwyr Aberystwyth yn protestio yn erbyn cau Neuadd Pantycelyn

Cyn hynny roedd son am roi gorau i'r elfen llety.

Dywed Prifysgol Aberystwyth eu bod eisoes "wedi cytuno ac wedi sicrhau bod rhaid cael llety penodol ar gyfer myfyrwyr Cymraeg eu hiaith".

Ychwanegodd bod yr opsiynau posib ar gyfer dyfodol hirdymor yr adeilad yn cynnwys "galw am ailddatblygiad cyflawn a buddsoddiad sylweddol."

"Yn sg卯l yr angen am fuddsoddiad hirdymor sylweddol a gwariant ychwanegol yn y tymor byr er mwyn bod Pantycelyn yn parhau fel neuadd breswyl tu hwnt i Fehefin 2015, bydd y Pwyllgor hefyd yn ystyried cynnig i beidio 芒 darparu llety myfyrwyr yno o Fedi 2015, ac yn ystyried defnydd amgen i Bantycelyn a fyddai yn cynnwys gweithgareddau iaith a diwylliant cyfrwng Cymraeg."

Dywed y brifysgol pe bai'r neuadd ddim ar gael yna byddant yn cydweithio UMCA a chynrychiolwyr y myfyrwyr i ddarparu llety addas arall o fis Medi 2015.

Bydd unrhyw argymhellion gan y Pwyllgor Cyllid a Strategaeth y Brifysgol yn gorfod derbyn cymeradwyaeth Cyngor y Brifysgol.

Ffynhonnell y llun, Ian Capper/Geograph
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Neuadd Pantycelyn ei hagor yn nechrau'r 1950au, ond yn 1974 y daeth yn neuadd breswyl Gymraeg