麻豆官网首页入口

Prifysgol Abertawe: Honiadau bwlio yn yr Ysgol Reolaeth

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol Abertawe

Mewn cyfweliad gyda 麻豆官网首页入口 Cymru, mae gweithwyr o Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe wedi honni bod y Deon wedi bwlio, eithrio ac aflonyddu ar, rai aelodau o staff.

Mi wnaeth un gweithiwr ddisgrifio sut roedd yr Athro Nigel Piercy yn dweud wrth rai gweithwyr i symud i swyddfa wahanol, i adeilad gwahanol oedd gweithwyr yn cyfeirio ato fel "Guantanamo".

Mi wnaeth academydd arall, sydd wedi ymuno 芒'r adran ers i'r Athro Piercy gael ei benodi, ddweud wrth Newyddion 9 bod trefn reoli'r ysgol yn "syml, yn unbennaeth".

Dywedodd academydd sydd bellach wedi gadael y brifysgol "bod 'ofn' parhaol, wnaeth ddechrau troi'n ddiwylliant o fwlio."

Wedi i nifer o bobl gysylltu 芒 hi, gyda nifer o honiadau am yr Ysgol Reolaeth, mae'r Aelod Cynulliad lleol, Bethan Jenkins, wedi galw am adolygiad.

23 wedi gadael

Mi wnaeth yr Athro Nigel Piercy gychwyn yn ei swydd fel Deon yr Ysgol Reolaeth yn haf 2013, ychydig fisoedd wedi i'w fab, yr Athro Niall Piercy, gael ei gyflogi.

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru wedi gweld dogfen sy'n dangos bod 23 aelod o staff academaidd wedi gadael ers hynny.

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru wedi siarad 芒 nifer o aelodau o staff sy'n gweithio yn yr Ysgol Reolaeth ar hyn o bryd, ynghyd 芒 gweithwyr sydd wedi gadael ers i'r Athro Piercy gael ei benodi.

Mi wnaethon nhw ddweud mai un o'r prif resymau pam wnaethon nhw adael, oedd y ffordd roedd yr ysgol yn cael ei rheoli.

Roedd y gweithwyr wnaeth siarad 芒 麻豆官网首页入口 Cymru yn bryderus y byddai goblygiadau pe baen nhw'n lleisio eu pryderon yn gyhoeddus.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr Athro Nigel Piercy

'Iaith amhriodol'

Mewn cyfweliad di-enw, dywedodd un gweithiwr: "Mae gweithwyr wedi cael eu galw yn sbwriel dynol, ein bod ni'n wenwynig, yn hen g诺n truenus, yn 'hippy dippy', iaith sy'n gwbl amhriodol ar gyfer y gweithle, sy'n mynd yn gwbl groes i'r polisi parch yn y gweithle, ac sy'n amlwg yn peri gofid i'r bobl dan sylw.

"Mae'r holl bobl mae'r deon a'r dirprwy ddeon yn gobeithio fydd yn gadael yn cael eu rhoi i weithio yn adeilad Richard Price - sy'n cael ei gyfeirio ato fel Guantanamo o fewn yr ysgol - mae'r bobl yn yr adeilad hwnnw'n cael eu heithrio o gyfarfodydd, gweithgareddau a digwyddiadau.. Mae'n anfon neges glir nad oes gan y bobl hynny le yn nyfodol yr ysgol.

"Mae'r Ysgol Reolaeth yn destun sbort. Heblaw bod hyn yn digwydd, ni fyddech chi'n credu y gallai'r fath beth ddigwydd, bod un person, dau berson yn dod mewn, ac yn newid yr awyrgylch yn gyfan gwbl."

Wedi iddo adael y brifysgol ers i'r Athro Piercy gael ei benodi, dywedodd un academydd, oedd hefyd am barhau'n anhysbys, ei fod wedi gadael oherwydd y ffordd y cafodd ei drin.

Dywedodd: "Mi wnes i adael oherwydd newid yn y drefn reoli wnes i ei chael hi'n anodd iawn dygymod 芒 hi - mi wnaeth pethau newid yn gyflym iawn ac mewn modd dramatig iawn, ac roedd hynny'n drawmatig iawn.

"Roedd yn sioc ac yn syndod i nifer o bobl. Roedd hi'n anodd ei brosesu a'i ddeall... roedd hi'n fater o "rhaid i chi wneud hyn", doedd dim eglurhad beth fyddai'n digwydd, ond roedd 'ofn' parhaol, wnaeth ddechrau troi'n ddiwylliant o fwlio."

'Canser'

Ym mis Hydref y llynedd mi wnaeth myfyrwyr hefyd godi pryderon gan gychwyn deiseb arlein - gyda dros fil o bobl yn ei harwyddo.

Ac ym mis Mawrth, bu gorymdaith tu allan i'r adeilad, unwaith eto'n galw am newid.

Wythnos diwethaf bu'n rhaid i gadeirydd cyngor y brifysgol ymddiheuro wedi i'r Athro Nigel Piercy gyhoeddi blog ble wnaeth o ddisgrifio undebwyr fel "pobl fach annymunol" gyda "gwallt trist a gyrfaoedd sydd wedi methu".

Mae'r blog bellach wedi cael ei newid.

Mewn dogfen fewnol sydd wedi'i gweld gan y 麻豆官网首页入口, mi wnaeth yr Athro Piercy ysgrifennu "bod rhai unigolion yn ganser - a bod rhaid cael gwared arno er mwyn i weddill yr Ysgol oroesi."

Mae cyngor y brifysgol wedi gofyn i'r cyn-farnwr Syr Roderick Evans, sy'n ddirprwy ganghellor yn yr ysgol, i gynnal adolygiad o'r ysgol.

Fel rhan o'i adolygiad mi wnaeth Syr Roderick Evans siarad 芒 nifer o weithwyr yn yr Ysgol Reolaeth, ac roedd pob un am aros yn anhysbys oherwydd eu bod yn pryderu y bydden nhw'n cael eu cosbi, pe baen nhw'n lleisio eu pryderon yn gyhoeddus.

Mi wnaeth Syr Roderick Evans nodi bod y pryderon yngl欧n 芒'r ffordd roedd yr ysgol yn cael ei rheoli yn gredadwy, ac y dylai uwch-d卯m reoli'r brifysgol gynnal ymchwiliad i'r ysgol.

Pan ofynnwyd a oedd yr ymchwiliad wedi cychwyn ai peidio, mi wnaeth y brifysgol wrthod gwneud unrhyw sylw.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd nifer o unigolion o'r brifysgol wedi cysylltu 芒'r AC lleol, Bethan Jenkins, yn dilyn sawl digwyddiad yn yr ysgol

Adolygiad

Roedd nifer o unigolion o'r brifysgol wedi cysylltu 芒'r AC lleol, Bethan Jenkins, yn dilyn sawl digwyddiad yn yr ysgol.

Dywedodd: "Mae hyn wedi gwneud niwed i'w enw da, a dyna pam rydw i, ac eraill, yn gobeithio y gallen ni sicrhau adolygiad allanol, nid adolygiad mewnol. Adolygiad allanol i ystyried hyn oll, er mwyn i ni gael casgliad cadarnhaol."

Nid oedd unrhyw un o'r brifysgol ar gael ar gyfer cyfweliad. Ond mewn datganiad, dywedodd llefarydd: "Mae'r Ysgol Reolaeth wedi profi cyfnod o newid gyda'r bwriad o wella cyrsiau a'r profiad sy'n cael ei gynnig i fyfyrwyr.

"O ganlyniad i hynny mae mwy o bobl wedi gwneud ceisiadau i astudio yn yr Ysgol ac mae'r ysgol wedi dringo yn y tablau."

Ychwanegodd: "Ni allwn wneud unrhyw sylw ar achosion unigol, ond rydym ni'n gyflogwr cyfleoedd cyfartal ac yn cymryd o ddifrif unrhyw honiad o fwlio."

Wrth drafod staffio, dywedodd y brifysgol: "Mae nifer y gweithwyr yn yr Ysgol Reolaeth wedi cynyddu'n arw, gyda bron i 90 o weithwyr newydd wedi eu penodi, er mwyn ychwanegu at allu dysgu ac ymchwil yr ysgol, ynghyd 芒 gwasanaethau proffesiynol ychwanegol i gefnogi'r myfyrwyr."