Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Nid 'llwyddiant gwleidyddol' yw adroddiad Tawel Fan
Mae'r Dirprwy Weinidog ar Iechyd wedi rhybuddio na ddylai pleidiau drin adroddiad damniol i uned iechyd meddwl yn Ysbyty Glan Clwyd fel "llwyddiant gwleidyddol".
Dywedodd Vaughan Gething nad oedd ward Tawel Fan - ble wnaeth ymchwiliad annibynnol ddarganfod "camdriniaeth sefydliadol" - yn nodweddiadol o'r gofal mae cleifion yn ei gael gan y Gwasanaeth Iechyd o ddydd i ddydd.
Ond dywedodd AC o'r gogledd bod pobl yn yr ardal 芒 diffyg hyder bod Llywodraeth Cymru am ddelio'n effeithiol gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Mae'r Ceidwadwyr, sy'n ceisio cael dadl am y ward yn y Cynulliad yr wythnos nesaf, wedi ailadrodd ei galwad am ymchwiliad i'r Gwasanaeth iechyd ar draws y wlad.
Dywedodd arweinydd Ceidwadwyr Cymru Andrew RT Davies wrth raglen 麻豆官网首页入口 Sunday Politics Wales bod yna "restr hir o fethiannau gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr".
Ychwanegodd: "mae hi'n bwysig nawr bod Llywodraeth Cymru, yn hytrach na gwneud dim, yn gweithredu i ddelio a'r methiannau yma."
Pan ofynnwyd iddo a oedd y darganfyddiadau'n niweidiol i'r blaid Lafur, dywedodd Mr Gething: "Rwy'n meddwl y byddai teuluoedd gafodd eu heffeithio gan yr hyn ddigwyddodd yn Tawel Fan yn feirniadol o bobl fyddai'n ceisio defnyddio hyn fel rhyw fath o fethiant neu'n llwyddiant gwleidyddol i un ochr neu'r llall.
"Mae hyn am deuluoedd sydd wedi cael eu gadael i lawr gan wasanaeth ddylai fod wedi eu gwasanaethu nhw a'u teuluoedd yn gywir, ac yn yr achos yma, ni wnaeth hynny ddigwydd.
"Dyw hyn ddim yn adlewyrchu'r gofal mewn pobl yn ei dderbyn ddydd ar 么l dydd ledled Cymru, ac rwy'n meddwl y byddai unrhyw weinidog yn yr adran yma - o unrhyw blaid - yn siomedig, fel ydw i, am yr hyn ddigwyddodd."
Dywedodd AC y Democratiaid Rhyddfrydol yng ngogledd Cymru Aled Roberts bod pobl yn yr ardal yn "wedi'u brawychu gyda pha mor aml mae'r adroddiadau am fethiannau yn ein gwasanaeth iechyd yma yn dod i'r amlwg".
Ychwanegodd: "Dydw i ddim yn meddwl am funud bod pobl gogledd Cymru 芒 hyder bod arolygwyr iechyd a Llywodraeth Cymru yn enwedig yn mynd i ddelio'n effeithiol gyda'r bwrdd iechyd."