Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: Adroddiad damniol arall
Mae mwy o fanylion wedi dod i'r amlwg am yr argyfwng sy'n wynebu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a gafodd ei roi dan fesurau arbennig ddydd Llun.
Mae adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi yn dweud fod cadeirydd y bwrdd wedi disgrifio "diwylliant o fiwrocratiaeth a bwlio".
Mae'r ddogfen, gan gyn bennaeth y GIG yng Nghymru Ann Lloyd, a gafodd ei pharatoi ym mis Mawrth yn rhan o ymdrechion gweinidogion Cymru i wella perfformiad y bwrdd.
Mae hi hefyd yn codi pryderon ariannol ac yn rhybuddio bod angen "ymdrech enfawr" i wneud y newidiadau sydd eu hangen.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, fod yr adroddiad wedi bod yn "hollbwysig" yn y penderfyniad i roi'r bwrdd iechyd dan fwy o reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru.
Pryderus iawn
Yn y ddogfen, wrth grynhoi barn cadeirydd y bwrdd, Peter Higson, mae Ms Lloyd yn dweud: "Roedd yn bryderus iawn am y diffyg creadigrwydd o fewn y sefydliad ac yn ystyried bod gan y sefydliad, ddiwylliant o fwlio, ei fod yn anhyblyg, ac yn rhy fiwrocrataidd."
Mae'r adroddiad hefyd yn disgrifio cyfres o broblemau clinigol, sefydliadol, rheolaethol ac ariannol. "Bydd yn cymryd ymdrech enfawr ar ran y t卯m gweithredol cyfan i alluogi'r sefydliad i wella," meddai.
Daeth y penderfyniad i osod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr dan fesurau arbennig yn fuan ar 么l adroddiad ar wah芒n, a gyhoeddwyd yn ystod mis Mai, a ganfu'r "cam-drin sefydliadol" ar ward iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd, Sir Ddinbych.
Yn ei hadroddiad, mae Ann Lloyd yn dweud "mae llawer iawn o waith angen ei wneud o hyd er mwyn dod 芒'r gwasanaethau (iechyd meddwl) at y safon ofynnol".