麻豆官网首页入口

Simon Dean: 'Dealltwriaeth lawn' o'r dasg

  • Cyhoeddwyd
Betsi Cadwaladr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Mr Dean y byddai dysgu gwrando ar gymunedau yn allweddol

Mae prif weithredwr dros dro bwrdd iechyd mwyaf Cymru wedi dweud ei fod wedi derbyn y r么l "gyda dealltwriaeth lawn o'r hyn yr ydw i'n ei gymryd".

Roedd Simon Dean yn siarad mewn cyfarfod llawn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyngor Iechyd Cymunedol Gogledd Cymru ddydd Iau.

Cafodd ei benodi ddydd Mawrth gan y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford yn dilyn penderfyniad i wahardd yr Athro Trevor Purt o'r swydd a rhoi'r bwrdd iechyd dan fesurau arbennig.

Wrth bwysleisio pwysigrwydd adennill hyder y cyhoedd, dywedodd Mr Dean y byddai dysgu gwrando ar gymunedau yn allweddol.

'Un unigolyn'

"Mae angen i ni gydnabod lle ydyn ni," meddai. "Rydw i'n derbyn yr her ar ran y bwrdd iechyd. Rydw i'n disgwyl i ni fod yn atebol i'r gweinidog."

Ond ychwanegodd: "Un unigolyn ydw i. Nid fi yw achubwr y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru."

Ddydd Mawrth, fe wnaeth Mr Drakeford gadarnhau mai'r Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething fydd yn gyfrifol am oruchwylio'r mesurau arbennig, a bydd adolygiad o'r bwrdd yn cael ei gynnal ymhen pedwar mis.

Ychwanegodd y byddai'r mesurau yn canolbwyntio ar sicrhau gwelliannau mewn llywodraethiant a gofal, a cheisio adfer hyder y cyhoedd yn y bwrdd.