Gostwng nifer y cynghorau yng Nghymru?

Disgrifiad o'r llun, Mae disgwyl y byddai opsiwn arall yn cynnwys uno siroedd Conwy a Dinbych gan greu naw awdurdod lleol

Mae'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews, wedi cyhoeddi cynigion ar gyfer patrwm awdurdodau lleol Cymru yn y dyfodol.

Mae'r cynigion yn awgrymu y bydd wyth neu naw awdurdod lleol, gyda dau opsiwn ar gyfer awdurdodau'r gogledd.

Bydd unrhyw newidiadau yn gorfod aros tan ar 么l etholiadau'r cynulliad yn 2016 - a byddai hefyd yn ddibynnol ar bwy fydd mewn grym ym Mae Caerdydd.

Dywedodd Mr Andrews mai'r nod yw arbed arian a gwella gwasanaethau.

"Mae'r strwythur fel y mae ar hyn o bryd yn methu 芒 darparu gwasanaethau o ansawdd uchel ledled Cymru," meddai.

"Mae gwasanaethau addysg sawl awdurdod yng Nghymru yn dal o dan fesurau arbennig.

"Mae rhai awdurdodau yn rhy fach i allu parhau i fodoli.

Disgrifiad o'r llun, Mae Leighton Andrews wedi addo cyhoeddi map newydd llywodraeth leol

"Mae'r drefn bresennol yn costio miliynau o bunnoedd i drethdalwyr y cynghorau i dalu am wasanaethau gweinyddol sy'n cael eu dyblygu."

Yn 么l y gweinidog nid yw hwn yn benderfyniad terfynol ond "yn hytrach, dyma'r cam diweddaraf" o ran trafodaeth gyhoeddus.

Y cam nesaf fydd cyhoeddi Bil Uno a Diwygio drafft yn yr hydref.

Problemau

Byddai'r model wyth cyngor yn golygu bod siroedd hanesyddol fel Dyfed yn dychwelyd, wrth uno Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion, gyda Gorllewin Morgannwg yn cael ei hail-greu oherwydd ymuno Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Mae'n bosib y bydd ymgynghori pellach ar uno Conwy a Sir Ddinbych i greu cyngor ychwanegol yn y gogledd.

Y cynghorau posib newydd yng Nghymru

  • Cyngor 1 - Gwynedd, M么n a Chonwy
  • Cyngor 2 - Sir y Fflint, Wrecsam Sir Ddinbych
  • Cyngor 3 - Powys
  • Cyngor 4 - Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion
  • Cyngor 5 - Abertawe, Castell-nedd Port Talbot
  • Cyngor 6 - Pen-y-bont, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful
  • Cyngor 7 - Caerdydd, Bro Morgannwg
  • Cyngor 8 - Caerffili, Blaenau Gwent, Casnewydd, Mynwy a Thorfaen

'Dim consensws'

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad am gynlluniau'r llywodraeth, dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Tra bod llawer iawn yn derbyn bod angen trawsnewid radical ar y sector cyhoeddus yng Nghymru, mae'n ymddangos nad oes unrhyw gonsensws gwleidyddol ar ffurf y newidiadau, yn enwedig ymysg y pleidiau yn y Cynulliad Cenedlaethol.

"Nid oes consensws chwaith rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol am ffurf cynghorau'r dyfodol. Yn y cyfamser mae cynghorau lleol yn wynebu dyfodol ansicr a bydd yn rhaid iddyn nhw ymdopi gyda phum mlynedd arall o gynni, a'r sialens o gynnal gwasanaethau o safon uchel yn wyneb toriadau mewn gwariant cyhoeddus.

"Mae pryder sylweddol yn parhau hefyd nad yw'r map yn cynnig unrhyw sicrwydd pellach i rai sy'n talu treth y cyngor yng Nghymru, ac fe all eu biliau gynyddu'n sylweddol heb unrhyw ymateb eglur i'r mater hanfodol o unioni treth y cyngor."

'Tensiynau'

Dywedodd John Davies, cyn arweinydd Cyngor Sir Benfro, wrth Raglen Dylan Jones y gallai'r cynlluniau greu problemau i Lafur.

"Fe fydd tensiynau yn y Blaid Lafur yn eu cadarnleoedd yn y de ddwyrain a'r gogledd ddwyrain... bydd hon yn dipyn o her iddyn nhw," meddai.

"Ond dwi'n gobeithio y byddwn ni'n mynd y tu hwnt i'r map ac edrych ar holl ystod gwasanaethau cyhoeddus..."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Disgrifiad o'r llun, Map posib ar gyfer cynghorau Cymru, fyddai'n cynnwys wyth sir

Yn 么l Dyfed Edwards, arweinydd cyngor Gwynedd, mae awdurdodau lleol yn wynebu cyfnod anodd yn wyneb toriadau fydd yn golygu colli swyddi a cholli gwasanaethau.

Ond mae o am weld yr awdurdodau yn cydweithio gyda'r llywodraeth.

Dywedodd: "Ydan ni eisiau dylanwadau, ydan ni eisiau cael mewnbwn i'r si芒p newydd o lywodraeth leol?

"Y gri yw rhaid mynd i'r afael 芒 hyn oherwydd mae llywodraeth leol yn gwaedu i farwolaeth."

'Trychineb'

Dywedodd llefarydd y Blaid Geidwadol ar lywodraeth leol Janet Finch-Saunders AC: "Mae'r broses hon wedi bod yn annibendod o'r dechrau i'r diwedd.

"Ni ddylai cynghorau gael eu gorfodi i uno... dyw hyn ddim yn gweithio ac mae'n llwybr unffordd i drychineb.

"Mi fyddai'r argymhellion yn mynd 芒 ni'n 么l i oes arall ac mae'n dangos bod Llafur yn brin o syniadau... eu nod yw hybu eu hunan les.

"Os yw cymunedau o blaid hyn, popeth yn iawn ac os yw cynghorau'n gallu profi bod cyfuno'n arwain at fwy o effeithlonrwydd, ni ddylai neb wrthwynebu."

Ffynhonnell y llun, Thinkstock / PA

'Colli sefydlogrwydd'

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "...mae Llywodraeth Cymru'n canolbwyntio ar aildrefnu ffiniau'n orsyml.

"Fydd hyn ddim yn gwella darparu gwasanaethau cyhoeddus ac mae perygl y bydd llywodraeth leol yn colli ei sefydlogrwydd ar adeg dyngedfennol."

Mae'r cynlluniau wedi bod yn ddadleuol yn barod, gydag arweinwyr Llafur rhai cynghorau yn galw am oedi cyn cyhoeddi'r cynlluniau tan ar 么l etholiad y flwyddyn nesaf.

Y llynedd awgrymodd comisiwn 10, 11 neu 12 o gynghorau yn lle 22.

Gwrthododd y Gweinidog geisiadau gwirfoddol chwe chyngor i uno.

Dadansoddiad Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig y 麻豆官网首页入口

Go brin y byddai'r gweinidog gwasanaethau cyhoeddus, Leighton Andrews, yn dymuno cael ei gymharu 芒 Doc Brown - y gwyddonydd ecsentrig yn y ffilmiau Back to the Future. Ond pe bai chi'n tanio'r DeLorean a theithio i'r 70au a'r 80au mae'n debyg y byddech yn gweld map Llywodraeth Leol digon tebyg i'r un y bydd y gweinidog yn cyhoeddi heddiw.

Fe fydd yr union ffiniau'n wahanol mewn ambell i le ond mae'n debyg y bydd hwn yn fap cyfarwydd sydd, i bob pwrpas, yn dangos Gwent, tair sir ym Morgannwg, Dyfed, Powys, Clwyd a Gwynedd.

Efallai na ddylai hynny fod yn gymaint o syndod. Ers peth amser mae'r gweinidog wedi awgrymu ei fod yn dymuno gweld llai o gynghorau na'r 10 i 12 a argymhellwyd gan gomisiwn Williams. O dynnu map yn seiliedig ar fysedd dwy law, wel, dwy'r ffiniau naturiol ddim wedi newid cymaint 芒 hynny ers oes y tywysogion.

Ond mae 'na dipyn o wahaniaeth rhwng cyhoeddi map a chyrraedd pen y daith. Gyda'r tair gwrthblaid yn wrthwynebus ac ambell i arweinydd cyngor Llafur yn gandryll mae'n debyg taw mater i'r cynulliad nesaf fydd yr ad-drefnu gyda gweinidog neu hyd yn oed Llywodraeth wahanol yn gorfod mynd a'r maen i'r wal.

Peidied neb a chladdu Sir Fynwy neu Sir Benfro na dathlu ail ddyfodiad Gwent a Dyfed eto felly. Megis cychwyn mae'r frwydr rhwng y siroedd Normanaidd a'r tywysogaethau Cymreig ynghylch pwy'n union bydd yn gwagio'ch biniau ac yn addysgu eich plant o 2020 ymlaen.

Pwy wnaiff ennill? Gofynnwch i Doc Brown nid i fi.