麻豆官网首页入口

Honiadau pellach yn erbyn penaethiaid Ysgol Reoli

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol Abertawe

Mae honiadau pellach wedi cael eu gwneud yn erbyn dau o reolwyr Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe yngl欧n 芒'r ffordd y mae staff wedi cael eu trin.

Mae rhaglen Newyddion 9 麻豆官网首页入口 Cymru wedi gweld e-bost, gafodd ei ysgrifennu gan y dirprwy bennaeth, yr Athro Niall Piercy, yn disgrifio cyn-ddarlithydd fel person "diwerth, diog sy'n sach o sbwriel dynol".

Ac mae'r rhaglen yn ymwybodol o e-bost arall, sydd ddim yn gallu cael ei ddangos am resymau cyfreithiol, ble mae'r athro yn cyfeirio at ei staff mewn ffordd fychanus, haerllug ac israddol.

Dair wythnos yn 么l, fe wnaeth cyn-aelod a dau aelod presennol o staff yr Ysgol Reolaeth honni bod y pennaeth wedi bod yn bwlio rhai aelodau o staff. Disgrifiodd un sut gafodd rhai eu symud i adeilad gwahanol, ddaeth i gael ei adnabod fel "Guantanamo".

Y dirprwy bennaeth, yr Athro Niall Piercy, yw mab y pennaeth, yr Athro Nigel Piercy.

Fe gafodd Niall Piercy ei benodi ychydig fisoedd cyn ei dad, fel cadeirydd entrepreneuriaeth. 18 mis yn ddiweddarach, fe gafodd ei benodi'n ddirprwy bennaeth yr ysgol rheolaeth.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y pennaeth, Nigel Piercy, yw tad y dirprwy bennaeth, Niall Piercy (llun mewnol)

Gwagio swyddfa

Yn dilyn cyfres o honiadau yn y cyfryngau dros y flwyddyn ddiwethaf yn erbyn yr Ysgol Reoli, mae cyn-aelodau ac aelodau presennol wedi gofyn pam nad yw penaethiaid y brifysgol wedi gweithredu yn gynharach.

Ar 么l bod mewn cynhadledd ym mis Ebrill y llynedd, dywedodd un cyn-aelod o staff yr Ysgol Reolaeth ei bod wedi dychwelyd i'w gwaith i ddarganfod bod ei swyddfa wedi'i wagio, a'i phroffil wedi'i ddileu o wefan y brifysgol heb unrhyw drafodaeth.

Fe wnaeth yr Athro Alison Pullen gysylltu ag adran adnoddau dynol y brifysgol, oedd heb gael eu gwneud yn ymwybodol o'r digwyddiad. Mae tyst arall wedi cadarnhau iddi weld y stafell yn wag y diwrnod hwnnw.

Yn dilyn llu o gwynion yn gwrthwynebu'r ffordd yr oedd yr ysgol yn cael ei rheoli, fe gafodd fforwm agored ei gynnal i weithwyr yr adran i fynegi eu pryderon.

Roedd pob aelod o staff wnaeth Newyddion 9 gyfweld oedd yn y cyfarfod hwnnw wedi dweud bod y rhan fwyaf yn anhapus gyda'r ffordd y mae'r gweithwyr yn cael eu trin gan y Piercy's.

Dywedodd un person sy'n dal i weithio yn yr adran: "I fod yn onest, 'dw i wedi siomi'n fawr... 'dw i wedi siomi fwy gyda system y brifysgol yn hytrach na be' sydd wedi bod yn digwydd yn yr ysgol. Mae 'na gymaint o systemau mewn lle yn y brifysgol, ac yn bersonol, er bod cymaint o staff wedi siarad gydag adran adnoddau dynol y brifysgol, mewn gwirionedd does dim byd wedi newid eto. 'Dwi'n credu ein bod ni wedi cael ein gadael i lawr o gofio be sydd wedi digwydd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Alison Pullen bod ei phroffil wedi'i ddileu o wefan y brifysgol heb unrhyw drafodaeth

Ymateb

Wrth ymateb i'r ffordd y gwnaeth ei fab ddisgrifio staff, fe ddwedodd y pennaeth Nigel Piercy mewn e-bost nad oedd e'n ymwybodol o'r digwyddiad, ac nid ei le ef oedd ymchwilio i e-byst ei gydweithwyr.

Mae'r Athro Nigel Piercy yn anghytuno gyda honiad yr Athro Alison Pullen am ei hystafell - gan ddweud: "Ni chafodd unrhyw beth ei symud o'i swyddfa heblaw am gyfrifiadur, oedd wedi torri".

Mewn datganiad fe ddwedodd y brifysgol eu bod yn gweithredu polisi gwrth-fwlio a'u bod yn ymfalch茂o yn eu perthynas positif gyda'r undebau.

Fe wnaethon nhw ychwanegu bod Cofrestrydd y Brifysgol yn delio gydag unrhyw gwynion mewnol yn ymwneud 芒'r ysgol reolaeth, yn unol 芒'r drefn gafodd ei gytuno gyda'r Undebau Llafur.