麻豆官网首页入口

Ymprydio rhwng y wawr a'r machlud

  • Cyhoeddwyd
Arooj Kahn a Sara Yassine
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Arooj Kahn a Sara Yassine

Mae Mwslemiaid ar draws Cymru yn cymryd rhan yn yr 诺yl Islamaidd, Ramadan. Fe fydd pobl yn ymprydio rhwng toriad gwawr a machlud haul, gan nodi'r adeg y cafodd llyfr y Qur'an ei ddatgelu i'r proffwyd Muhammad. Mae Cymru Fyw wedi bod yn siarad gyda Sara Yassine a Arooj Kahn, dwy ferch ifanc o Gaerdydd am bwysigrwydd yr 诺yl:

Sara: Mae Ramadan yn fis o'r calendr Islamaidd ac yn ystod y mis dyw Mwslemiaid ddim yn bwyta o'r wawr tan machlud, dim bwyd, dim diodydd, dim hyd yn oed d诺r. Ond mae e'n fis i adael i Fwslemiaid i ddod yn agosach at Dduw.

Mae nhw'n darllen mwy o'r Qur'an, yn gweddio'n fwy a just yn trio, dim newid eu hunain, ond neud mwy o bethau da, fel bod trwy gydol y flwyddyn wedyn mae nhw'n arfer gyda gwneud pethau mwy crefyddol.

Mae pobl ar 么l iddyn nhw gyrraedd eu harddegau yn gorfod ymprydio, ond i fi'n bersonol fi'n hoffi ymprydio achos yn y mosg mae fe'n fwy o gymuned, a mae fe'n teimlo'n dda bod ni gyd yn ymprydio gyda'n gilydd a hefyd fi'n hoffi'r ffaith bod e'n dod a fi'n agosach i Dduw. Felly dyna pam fi'n ymprydio.

Arooj: Mae ymprydio'n bwysig i fi oherwydd mae'n un o bileri Islam, mae'n dangos y ffydd ac yn ystod Ramadan mae just feel o gymuned, a pan r'ych chi'n ymprydio chi'n teimlo bod chi'n dod yn agosach at Dduw.

Ar 么l y cyfnod yna ni gyd yn mynd i'r mosg i weddio. Mae'n weddi sy'n specific i Ramadan. Mae cymuned yn bwysig iawn yn Islam. Mae'n annog pawb i ddod at ei gilydd mewn gweddi.

Pan ych chi'n gweddio gyda'ch gilydd mae yna fwy o fudd ynddo fe ac mae'n eich annog chi i wneud yn dda a gweddio fwy, ac edrych fwy mewn i Islam ac mae just yn dangos pan mae cymuned yn dod at ei gilydd, mae'n dangos ymroddiad a pha mor agos ma Islam yn dod i ni fel Mwslemiaid.

Sara: Wrth i'r haul fachlud mae lot o'n ni'n mynd i'r mosg. Weithiau mae nhw'n mynd i fwyta yn y mosg yn lle bwyta adre. Ond hefyd ar 么l y bwyd mae gweddi, un o bump gweddi'r diwrnod.

Ar ol hwnna mae rhywbeth o'r enw Teraweeh, a gweddi nos yw hi a chi'n neud e trwy gydol Ramadan pob diwrnod. Mae'r mosg yn trio gorffen y Qur'an trwy weddi, so fi a'n ffrindiau i yn mynd i'r mosg a gweddio Teraweeh tan bod y mis yn gorffen.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dathlu Ramadan yng Nghaerdydd

Arooj: Ar y dechrau mae ymprydio'n gallu bod yn anodd ond mae'n dod yn routine a pan r'ych chi ddim just yn canolbwyntio ar y bwyta a gallu canolbwyntio ar addoli, darllen mwy, mae'n iawn. Dyw e ddim mor anodd.

Sara: Ar ddechrau'r mis ma fe'n anodd i weld pobl eraill yn bwyta a dy'n ni ddim yn gallu, ond wrth i'r mis fynd yn ei flaen a ni'n arfer gyda fe, mae fe'n iawn achos ma pobl yn dal i siarad gyda ni a ry'n ni'n gallu sgwrsio gyda nhw.

Mae pobl yn teimlo nad y'n nhw yn gallu bwyta o'm mlaen i, achos dwi'n methu bwyta, ond fi wastad yn dweud wrthyn nhw ei fod e'n iawn.

Arooj: Chi'n dod i arfer gyda fe i ddweud y gwir. Mae 'na, ystafell weddio yn yr ysgol ac yn y brifysgol, felly pan mae break deg munud 'da ni rhwng darlithoedd, ni'n gallu mynd i weddio a dod n么l i'r ddarlith nesa.

Sara: Mae lot o bobl just yn gofyn lot o gwestiynau fel, mae rhai pobl yn credu bod chi ddim yn bwyta nac yfed am 30 diwrnod! Ond fi wastad yn dweud wrthyn nhw ein bod ni'n bwyta bob diwrnod just ar 么l machlud.

Dyna gyd yw e, lot o gwestiynau fel arfer. 'Dyn nhw ddim yn gwybod lot amdano fe, ond dim byd negyddol.

Gallwch weld Sara ac Arooj yn trafod Ramdan ar Ffeil, S4C, Dydd Gwener 19 Mehefin am 17:55