麻豆官网首页入口

Adroddiad yn galw am fwy o gymorth i ofalwyr ifanc

  • Cyhoeddwyd
GofalwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae dros 22,500 o ofalwyr di-d芒l rhwng 14-25 oed yng Nghymru yn cefnogi ffrind neu deulu

Mae gofalwyr ifanc bedair gwaith yn fwy tebygol i dynnu allan o goleg neu brifysgol na'u cyd-fyfyrwyr, yn 么l adroddiad.

Mae dros 22,500 o ofalwyr di-d芒l rhwng 14-25 oed yng Nghymru yn cefnogi ffrind neu deulu.

Bydd adroddiad Ymddiriedaeth Gofalwyr Cymru yn cael ei lansio yn y Cynulliad ddydd Iau, ac mae'n rhoi awgrymiadau am beth allai gael ei wneud i roi gwell gefnogaeth i ofalwyr ifanc.

Dywedodd cyfarwyddwr yr ymddiriedaeth Simon Hatch: "Mae hi'n amser i wrando ar leisiau gofalwyr ifanc.

"Gadael yr ysgol, mynd i goleg neu brifysgol, dechrau gweithio - mae'r rhain yn newidiadau anodd i bob person ifanc.

"Ond i ofalwyr ifanc, pan does 'na ddim cefnogaeth, gallan nhw fod yn rhwystrau anorchfygol."