Pwyllgorau'r Cynulliad: 'Pryder am y Gymraeg'

Disgrifiad o'r llun, Rhodri Glyn Thomas: '... rhywfaint o gynnydd wedi bod ...'.
  • Awdur, Gan Alun Jones
  • Swydd, Uned Wleidyddol

Mae'r Comisiynydd sy'n gyfrifol am bolisi ieithoedd swyddogol y Cynulliad wedi dweud ei bod yn "bryder gwirioneddol" iddo fod "cyn lleied o'r Gymraeg yn cael ei defnyddio yn y pwyllgorau".

Roedd Rhodri Glyn Thomas yn cyflwyno'r Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol am y tro olaf ddydd Mercher cyn y bydd yn ymddeol fel Aelod Cynulliad yng ngwanwyn y flwyddyn nesaf.

"Rwyf yn credu bod yna ryw gymaint o gynnydd wedi bod," meddai, "mae aelodau yn dweud wrthyf bellach eu bod nhw'n teimlo eu bod nhw yn gallu defnyddio'r Gymraeg mewn pwyllgorau oherwydd bod y deunydd cefndirol ar gael bellach yn y Gymraeg, ac felly nad ydyn nhw'n gorfod symud o un iaith i'r llall."

Ychwanegodd bod "y defnydd o'r Gymraeg yma yn y Siambr hwyrach yn adlewyrchu'r niferoedd sydd yn medru'r Gymraeg.

"Ond nid yw hynny'n wir yn y pwyllgorau, ac mae'n rhaid inni unwaith eto edrych ar beth y gallwn ni ei wneud fel comisiwn i sicrhau bod hynny yn digwydd."

'Llai llym'

Cyhoeddodd hefyd bod y gwaith golygu ar Gofnod y Trafodion o'r pwyllgorau a'r cyfarfodydd llawn nawr yn "llai llym er mwyn adlewyrchu geiriau'r siaradwr yn well".

Yn 么l Mr Thomas "y bwriad ydy bod y Cofnod nawr i fod i adlewyrchu llawer iawn mwy o'r hyn sy'n cael ei ddweud yn hytrach na bod yna bobl yn cywiro ein Cymraeg a'n Saesneg ni i wneud iddi ymddangos yn well nag y maent".

Dywedodd Aled Roberts, AC y Democratiaid Rhyddfrydol dros ogledd Cymru: "Rwy'n gobeithio felly y bydd y Cofnod yn adlewyrchu defnydd o iaith y Rhos yn y dyfodol."

Mae Cofnod dwyieithog o drafodaethau'r Cynulliad yn y cyfarfodydd llawn ond nid yw trafodaethau pwyllgorau yn cael eu cyfieithu i'r Gymraeg.