麻豆官网首页入口

Gwahardd Dirprwy Ddeon o'i waith

  • Cyhoeddwyd
Niall a Nigel PearsonFfynhonnell y llun, Prifysgol Abertawe
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr Athro Nigel Pearson a'i fab, Niall

Wedi ymddiswyddiad Deon Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, Nigel Piercy, fore Gwener, mae 麻豆官网首页入口 Cymru yn deall fod ei fab Niall - sy'n ddirprwy yn yr adran - wedi cael ei wahardd o'i waith.

Mewn e-bost gafodd ei yrru i staff fore Gwener, dywedodd Nigel Piercy ei fod yn camu o'i swydd oherwydd "gwahaniaethau" gyda'r brifysgol.

Fe gafodd yr Athro Nigel Piercy ei benodi yn Ddeon yr Ysgol Reolaeth yn haf 2013.

Fe welodd 麻豆官网首页入口 Cymru ddogfen sy'n dangos bod 23 aelod o staff academaidd wedi gadael ers hynny.

Ychwanegodd Sir Roger Jones, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Abertawe, bod deon dros dro'n mynd i gael ei apwyntio yn sgil ymddeoliad yr Athro Nigel Piercy.

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi bod yr Athro Marc Clement wedi ei benodi i'r swydd dros dro. Mi fydd yn dechrau ar ei waith ddydd Llun, Gorffennaf 24.