麻豆官网首页入口

Ateb y Galw: Lisa J锚n

  • Cyhoeddwyd
Lisa Jen

Yr wythnos yma y gantores Lisa Jen sy'n Ateb y Galw gan Cymru, wedi iddi gael i'w henwebu gan y delynores Catrin Finch wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Mellt a tharannau, gwylio niwl pinc y storm yn llusgo'n isel ar hyd y l么n tra ro'n i'n gwylio o ffenast y gegin.

Hefyd dwi'n cofio mewn pram goch efo briwshon creision yn crafu fy nghoesa, mewn protest CND fawr yn Llundain.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?

Y gantores Lauryn Hill

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Bod yn fasgot i Majorets Gerlan - carnifal Bethesda, ac fel roeddem ni'n gorymdeithio trwy'r Stryd Fawr na'th fy sgert werdd i syrthio i'r llawr- nesh i gario mlaen mewn jysd nicar Rainbow Bright- mi o'n i'n 6 oed falla?

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Bora ma, yn edrych ar lun y Rhino Gwyn gwrywaidd dwethaf- mor, mor drist.

Ffynhonnell y llun, Georgina Goodwin
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sudan, y rheinoseros gwyn ola

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Ffretio - am popeth!

Dy hoff ddinas yn y byd?

Athens

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Noson fy mhenblywdd cyntaf efo Mart (sydd rwan yn 诺r i mi) mi aeth o fi i Windows bar ar 28ain llawr yr Hilton ar Park Lane am Margaritas, wedyn am fwyd i Mirabelle yn Mayfair- mi o'n i wedi mopio!

Oes gen ti dat诺?

Na- dim diddordeb

Beth yw dy hoff lyfr?

Un Nos Ola Leuad

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

'Dungarees' fi!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mi fydda Lisa wedi gwerthfawrogi 'dungarees' tra roedd hi'n fascot yng ngharnifal Bethesda!

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

The Lives of Others

Dy hoff albwm?

Wow! Anodd. Ar y funud Women of Rembetika 1908-1947

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddi di'n ei ddewis?

Cwrs Cyntaf! Carpaccio o Tuna! Neu Stuffed Amalfi baked lemons鈥edi sdwffio efo Mozzarella, anchovies, basil wedyn unwaith wedi toddi'n y popty ei daenu ar fara Pain de Campagne 鈥尘尘尘尘

Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?

Ffonio sydd ora bob amser ond tecst lot haws dydi- trist!

Pe taset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Liwsi, fy merch! Ma hi'n dioddef o eilepsi ac mi faswn i'n licio trio teimlo be ma hi'n deimlo bob dydd.

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Si芒n James

Disgrifiad o鈥檙 llun,

9 Bach - Enillwyr Albwm Werin y Flwyddyn yn y Radio2 Folk Awards eleni