麻豆官网首页入口

Bwriad ymgyrchu dros addysg grefyddol

  • Cyhoeddwyd
CREFYDDFfynhonnell y llun, ARALL

Mae cyn-bennaeth Canolfan Addysg Grefyddol Cymru wedi dweud wrth 麻豆官网首页入口 Cymru y bydd yna ymgyrch i wrthwynebu newidiadau i bwnc addysg grefyddol mewn ysgolion.

Yn 么l Rheinallt Thomas, mi fydd yna ymgyrch dros yr haf i wrthwynebu'r newidiadau.

Mae'r gweinidog addysg, Huw Lewis wedi dweud y dylai'r pwnc uno gyda moeseg ac athroniaeth yn y dyfodol i helpu uno cymunedau, ac yn 么l y llywodraeth mi fydd unrhyw newidiadau i addysg grefyddol yn digwydd fel rhan o newidiadau ehangach i'r cwricwlwm addysg mewn ysgolion.

Fe waeth Mr Lewis synnu nifer o aelodau'r Cynulliad fis diwethaf drwy gyhoeddi'n ddi-rybudd ei fod am weld pwnc newydd i ddisodli addysg grefyddol.

Dywedodd y byddai Crefydd, Moeseg ac Athroniaeth yn dysgu disgyblion yn union beth yw ystyr 'byw mewn gwlad rydd'.

Mae grwpiau fel Cymdeithas y Dyneiddwyr, sy'n cynrychioli rhai sy'n ddi-grefydd, wedi croesawu'r newyddion.

"Cythruddo pobl"

Yn 么l Rheinallt Thomas, mae cyhoeddiad y gweinidog wedi cythruddo llawer o bobl.

Dywedodd wrth raglen y Post Cyntaf ar 麻豆官网首页入口 Radio Cymru fore Mercher: "Unwaith y bydd pobl wedi cael dros gyfnod yr haf a gallu ad-drefnu eu hunain fe fydd yn sicr ymgyrchu oherwydd mae yna nifer o bwyntiau, hyd yn oed rhai cyfreithiol faswn i'n eu codi, yn nhermau'r hyn ddaru Huw Lewis ei ddweud ar bnawn ola'r Senedd.

"Mae na lot o bethau sydd ddim yn gwneud sense o gwbl yn y datganiad ddaru slipio allan y pnawn hwnnw. Mae addysg grefyddol yn sefyll mewn sefyllfa unigryw - dyma'r unig bwnc yn y cwricwlwm lle mae'r cyngor sir lleol hefo rheolaeth arno.

"Does na ddim rheolaeth o'r canol cyn belled ag y mae deddf yn y cwestiwn a dyma lle dwi methu deall na fase rhywun wedi cyfarwyddo Huw Lewis yn well o ran sefyllfa'r gyfraith."

Dros y blynyddoedd nesaf mi fydd y cwricwlwm cyfan yng Nghymru yn newid yn llwyr, ac yn 么l llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, mi fydd unrhyw newidiadau i addysg grefyddol yn digwydd yn y cyd-destun hwnnw.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Gweinidog Addysg Huw Lewis